Mater - cyfarfodydd

Response to Welsh Government’s Transportation White Paper

Cyfarfod: 26/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 51)

51 Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        Derbyn sylwadau’r Pwyllgor Craffu ar Bapur Gwyn “Gwella Trafnidiaeth GyhoeddusLlywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar Bapur Gwyn Cludiant Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Dywedodd fod LlC wedi cyflwyno Papur Gwyn i ymgynghori arno ym mis Rhagfyr 2018, ar gynlluniau i wella cludiant cyhoeddus yng Nghymru. Pwrpas yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ar gynigion deddfwriaethol LlC ar gyfer ad-drefnu'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, ynghyd â thrwyddedu tacsis a cherbydau preifat eraill.  Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad oedd 27 Mawrth 2019.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog bod 10 cynnig o fewn y Papur Gwyn a oedd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad. Eglurodd fod cynigion 1 i 6 yn ymwneud â chludiant cyhoeddus a gwahoddodd y Rheolwr Uned Cludiant Integredig a Rheolwr y Gwasanaethau Rheoleiddio i adrodd ar bob cynnig a'r ymatebion arfaethedig cyffredinol. Roedd cynigion 7 i 10 yn cyfeirio'n benodol at drwyddedu tacsis ac roedd ymateb y Cyngor wedi'i drafod gan y Pwyllgor Trwyddedu. Roedd yr ymateb arfaethedig i’r cwestiynau a oedd yn ymwneud â’r cynigion hyn i’w gweld yn atodiad 1 i’r adroddiad. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bryderon ynghylch y diffyg eglurder o ran cynnig 1 yn yr adroddiad a'r aelodaeth o Awdurdod Cludiant ar y Cyd a threfniadau ariannu. Eglurodd ei bod wedi codi’r materion hyn gyda LlC ac roedd wedi cael gwybod y gallai papur manylach ddod yn fuan. Dywedodd hefyd nad oedd y Papur Gwyn yn crybwyll sut y byddai Trafnidiaeth Cymru’n cyd-fynd â hyn.Ychwanegodd fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn darparu cyllid LlC ar ran awdurdodau eraill Gogledd Cymru, e.e. tocynnau bws a’r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas hefyd at y cynllun lliwiau newydd y byddai Sir y Fflint yn ei roi ar fysiau a chytunodd y Prif Swyddog i anfon gwybodaeth am hyn at aelodau’r Pwyllgor.

Dywedodd y Cynghorydd Joe Johnson ei fod yn gwrthwynebu’r cynnig i gynyddu'r oed i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun tocynnau teithio rhatach gorfodol er mwyn iddo gyd-fynd ag oed pensiwn merched.  Dywedodd y dylai tocynnau bysiau barhau i fod ar gael o 60 oed ymlaen a soniodd am yr angen i leihau’r ôl-troed carbon. Teimlai y gallai’r newidiadau arfaethedig gael effaith negyddol. 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai pobl dan 65 oed a oedd eisoes wedi derbyn tocyn bysiau am ddim yn parhau i fod yn gymwys i'w ddefnyddio.

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at ymatebion awgrymedig yr Awdurdod i Bapur Gwyn LlC ar gludiant, a oedd ynghlwm â'r adroddiad. Gan sôn am gwestiynau 18 a 19 a oedd ill dau wedi'u hateb ag 'Ydw/Ydym', dywedodd nad oedd hyn yn ateb y cwestiynau. Cefnogodd y Cynghorydd Evans y farn y dylai'r oedran i docynnau bws rhatach barhau'n 60.  Roedd yn teimlo y gallai tocynnau teithio rhatach gynnal gwasanaethau bysiau mewn sawl achos, gan awgrymu y gallai newidiadau wneud llwybrau'n anymarferol yn y dyfodol. Cyfeiriodd hefyd at yr ôl-troed carbon a dywedodd nad oedd rhaid i bobl a oedd yn defnyddio gwasanaeth bysiau ddefnyddio eu ceir a chyfeiriodd  ...  view the full Cofnodion text for item 51