Mater - cyfarfodydd

Play Sufficiency Assessment

Cyfarfod: 21/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 4)

4 Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae pdf icon PDF 117 KB

Pwrpas:        Ystyried yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae cyn cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Swyddog Datblygu Chwarae Sir y Fflint, Marianne Mannello (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru) a'r Swyddog Dylunio Chwarae – Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a’u gwahodd i gyflwyno’r adroddiad. Darparodd yr adroddiad drosolwg o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir y Fflint 2019 a’r Cynllun Gweithredu Drafft ar gyfer 2019/2020. Roedd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd statudol dan Fesur Plant a Theuluoedd Cymru 2010 i adrodd i Lywodraeth Cymru a byddai dogfen ddrafft yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru maes o law. Roedd Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Sir y Fflint yn ddogfen fyw gyda Chynllun Gweithredu’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol. Roedd hwn yn ofyniad statudol ac amlinellodd yr awdurdod lleol sut yr oedd yn bwriadu mynd i’r afael â diffygion a chynnal lefelau presennol yn y cynllun gweithredu. Esboniodd y Swyddog Datblygu Chwarae y byddai’r Cyngor yn gallu cael mynediad at gyllid drwy gynlluniau gweithredu tuag at gynlluniau megis y cynlluniau chwarae sirol ac y gellir darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws y sir i bob plentyn.

 

Mewn ymateb i sylw ar y ceisiadau llwyddiannus am gyllid, esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru fod lobïo cenedlaethol yn parhau i geisio sicrhau cyllid ond roedd hyn yn dal yn ddibynnol ar yr arian oedd ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Mackie y Swyddog Datblygu Chwarae am ei hymroddiad gan ddweud ei bod yn frwdfrydig, yn benderfynol ac yn ofalgar a bod yr adroddiad yn eithriadol o dda.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am wybodaeth ar y Strategaeth a oedd yn cysylltu meysydd chwarae a oedd yn rhan o Aura. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Datblygu Chwarae bod y Cyngor yn gysylltiedig ag Aura gyda’r Asesiad O Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a bod meysydd chwarae yn rhan fawr o hyn.

 

Yna gofynnodd y Cynghorydd Heesom sawl cwestiwn mewn perthynas â chyllid cytundeb adran 106 ar gyfer ardaloedd chwarae a ddarparwyd gan ddatblygwyr i’r ddarpariaeth Ysgol a gofynnodd a fyddai modd defnyddio peth o’r arian hyn ar gyfer darpariaeth ieuenctid a fyddai’n fuddiol iawn. Ymatebodd y Swyddog Dylunio Chwarae gan ddweud fod dwy ran i’r Cyllid Adran 106, y cyfraniad addysg a’r cyfraniad man agored cyhoeddus, ac nid oeddent yr un fath. Amlinellodd y broses o wneud penderfyniad ar gyfer dyrannu’r cyllid, boed hynny ar gaeau chwaraeon neu ardaloedd chwarae er enghraifft, cyfleusterau mannau agored cyhoeddus, a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag Awdurdodau Lleol a Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom fod cyllid Cytundeb 106 yn swm sylweddol o arian a gofynnodd sut yr oedd y cyllid yn cael ei fonitro.Dywedodd y Swyddog Dylunio Chwarae fod adroddiad arolwg i asesu cyflwr yr holl feysydd chwarae wedi'i gynnal a’i gyhoeddi. Adroddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru ar y trafodaethau a gynhelir ar draws Gymru mewn perthynas â chyllid Cytundeb Adran 106 i edrych ar yr holl ardaloedd o fannau agored y gallai plant chwarae arnynt. Nid oedd hon yn broses hawdd ond gyda’r templed cenedlaethol roedd potensial i edrych ar le'r oedd yr arian  ...  view the full Cofnodion text for item 4