Mater - cyfarfodydd

Composition of Audit Committee

Cyfarfod: 27/03/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 65)

65 Cyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 74 KB

Ystyried a ddylid cynyddu’r nifer o Aelodau ar y Pwyllgor Archwilio.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol adroddiad i ystyried cyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio yn dilyn trafodaeth yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r trefniadau aelodaeth presennol a’r cyfraniadau gwerthfawr a wnaed gan yr aelodau lleyg presennol a blaenorol yn gwasanaethu ar y Pwyllgor. Byddai’n rhaid i unrhyw benderfyniad i newid maint aelodaeth a / neu gynyddu nifer yr aelodau lleyg gael ei wneud drwy argymhelliad i’r Cyngor Sir i’w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n rhaid i faint y Pwyllgor fod yn gymesur â’r gwaith a wneir a natur y cwestiynau yn y cyfarfodydd ac argymhellodd ei bod yn haws cyflawni hyn drwy gadw nifer yr aelodau yn isel.  Er y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor fod yn gytbwys yn wleidyddol, byddai unrhyw newid i gynrychioli pob gr?p gwleidyddol yn golygu cynnydd i un ar ddeg (neu ddeg o bosib) o gynghorwyr.  Wrth drafod goblygiadau o ran adnoddau, eglurwyd mai’r hawl tâl ar gyfer aelod lleyg oedd £99 fesul cyfarfod yn hytrach na £128 a oedd yn berthnasol i aelod lleyg yn cadeirio cyfarfod.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dolphin am yr effaith gadarnhaol gan yr aelod lleyg presennol ac awgrymodd y byddai aelod lleyg ychwanegol hefyd yn fanteisiol.  Er lles tegwch, dywedodd y dylai pob gr?p gwleidyddol gael ei gynrychioli ac awgrymodd y byddai modd gwneud hyn drwy gynnig sedd y gr?p lleiaf (ei gr?p ei hun ar hyn o bryd) i’r Gr?p Annibynnol newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson fod y Pwyllgor eisoes yn weddol gytbwys rhwng y grwpiau llywodraethol a’r grwpiau gwrthwynebol.  Dywedodd bod aelodaeth lai yn gyffredinol yn caniatáu i bawb sy’n bresennol gyfrannu, a siaradodd o blaid aelod lleyg ychwanegol pe bai unrhyw newid yn cael ei wneud. 

 

Roedd y Cynghorydd Dunbobbin yn cytuno â’r Cynghorydd Johnson, gan fod y cyfarfodydd yn agored i Aelodau eraill eu harsylwi os oeddent yn dymuno gwneud hynny.  Nid oedd yn credu y byddai cynyddu nifer y cynghorwyr yn ychwanegu gwerth at y Pwyllgor.

 

Yn dilyn ei sylwadau blaenorol, cynigodd y Cynghorydd Dolphin y dylid penodi’r gr?p nad oedd wedi’i gynrychioli ar y Pwyllgor ar hyn o bryd yn lle’r gr?p lleiaf, gydag aelod lleyg ychwanegol os y cytunwyd ar hynny.

 

Ar y sail hon, awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai’r cynnig i’w argymell i’r Cyngor nodi bod nifer y cynghorwyr yn aros yr un fath ac y dylid cylchdroi aelodaeth er mwyn caniatáu i bob gr?p gwleidyddol gymryd rhan, a phenodi ail aelod lleyg. Byddai’r trefniadau cylchdroi yn cael eu cytuno ag Arweinwyr Gr?p.

 

Cynigiwyd hyn yn ffurfiol gan y Cynghorydd Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dunbobbin.  O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn dymuno argymell i’r Cyngor, drwy Gyfarfod Blynyddol y Cyngor, y dylid cadw nifer y cynghorwyr ar y Pwyllgor Archwilio a chylchdroi aelodaeth er mwyn caniatáu i bob gr?p gwleidyddol gymryd rhan.  Hefyd y dylid recriwtio aelod lleyg ychwanegol.