Mater - cyfarfodydd
Capital Strategy including Prudential Indicators 2019/20 – 2021/22
Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 91)
91 Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 - 2021/22 PDF 93 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifeg Dechnegol, y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru, cyn ei chyflwyno i’r Cabinet. Roedd y Strategaeth, a oedd yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodusrwydd y Cyngor ar gyfer 20129/20 - 2021/22, wedi’i gwahanu oddi wrth y Cynllun Rheoli Asedau er mwyn cyflawni’r newidiadau a wnaed i Godau Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Byddai’r Cynllun Rheoli Asedau yn cael ei ddiweddaru a’i rannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Roedd y Strategaeth yn ddogfen gyffredinol a oedd yn dod â strategaethau a pholisïau amrywiol at ei gilydd, wedi’u rhannu’n nifer o adrannau.
Gofynnodd y Cynghorydd Heesom sut yr oedd yr eitem yn cysylltu ag adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf a’r dull y gallai Aelodau geisio gohirio buddsoddiad cyfalaf. Tynnodd y Rheolwr Cyllid sylw at adran Llywodraethu'r Strategaeth sy’n cyflwyno’r fframwaith, gyda chynnydd yn cael ei adrodd yn chwarterol. Siaradodd y Prif Weithredwr am yr hyblygrwydd sydd wedi’i ymgorffori yn y Rhaglen Gyfalaf a’r anhawster o ohirio buddsoddiadau yn ystod y flwyddyn ar ôl i’r Rhaglen gael ei chymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Y bydd y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cyngor Sir;
(b) Y bydd y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell i’r Cyngor:-
· Y Dangosyddion Darbodusrwydd ar gyfer 2019/20 - 2021/22 fel y’u nodir yn Nhablau 1 a 4-7 y Strategaeth Gyfalaf.
· Awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i sicrhau symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).
(c) Nid oes gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’r Cabinet eu hystyried cyn y bydd Strategaeth gyfalaf 2019/20 - 2021/22, ar ei ffurf derfynol, yn cael ei hystyried gan y Cyngor.