Mater - cyfarfodydd
Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
Cyfarfod: 17/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 21)
21 Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn PDF 202 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) Adroddiad Monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19. Eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno'r drefn o fonitro cynnydd ar flaenoriaeth Cyngor Gwyrdd, Cynllun y Cyngor a nododd mai’r risg allweddol oedd diffyg Arian Llywodraeth Ganolog.
Darparodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wybodaeth gefndir ac amlygodd rai o’r ardaloedd cadarnhaol. Mewn ymateb i gwestiwn a gododd y Cynghorydd Dunbobbin am Statws Coch Melyn Gwyrdd 4.1.1.2 yn cael ei nodi fel gwyrdd er mai dim ond 50% oedd wedi’i gwblhau,cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i edrych mewn i’r mater ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.
Cododd y Cynghorydd Evans bryder am fynd â PVC i Safleoedd Ailgylchu Nwyddau’r Cartref a gofynnodd a oedd polisi newydd wedi cael ei gyflwyno mewn safleoedd penodol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) nad oedd unrhyw newidiadau polisi wedi digwydd ac y byddai'n ymchwilio i’r mater ac ymateb i Aelodau’r Pwyllgor.
Nid oedd y Cynghorydd Dolphin yn cytuno â Statws Gwyrdd ar gyfer trwsio a chynnal y ffyrdd ac roedd yn teimlo y dylai fod yn oren. Awgrymodd bod Goruchwylwyr y Priffyrdd yn cysylltu â Chynghorwyr i gael gwybod beth oedd y problemau, ac mewn rhai achosion, bod angen cerdded drwy'r ardaloedd yn hytrach na gyrru drwyddynt..
Soniodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad am y cydnabyddiaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i Sir y Fflint am fod ganddynt y ffyrdd sy’n cael eu cynnal orau yng Nghymru a dywedodd bod Aelodau yn ymwybodol o’r gostyngiad mewn arian oedd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf hefyd.
Llongyfarchodd y Cadeirydd y Swyddogion am y ffordd y cafodd yr arian ychwanegol gan LlC ei ddyrannu mewn ffordd effeithlon a chyflym.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bibby a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Shotton.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.