Mater - cyfarfodydd
Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
Cyfarfod: 18/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 15)
15 Adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn PDF 284 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Council Plan 2018/19 – Year-end Progress Report – Supportive Council, eitem 15 PDF 1 MB
- Appendix 2 – Council Plan 2018/19 – Year-end Progress Report – Ambitious Council, eitem 15 PDF 564 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi crynodeb o berfformiad am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn 2018/19 ar gyfer y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor sef ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.
Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau a’r Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai'r wybodaeth ddiweddaraf am y dangosyddion perfformiad a ganlyn a oedd yn dangos Statws Coch Melyn Gwyrdd – coch ar gyfer perfformiad cyfredol yn erbyn y targed.
· Y nifer o dai Cyngor ychwanegol sy’n cael eu hadeiladu drwy raglen SHARP;
· Y nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl; ac
· y bydd lefelau dyled yn codi os na fydd tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Patrick Heesom i ofyn cwestiwn, a oedd yn mynychu’r cyfarfod fel arsylwr. Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y dangosydd perfformiad i ddatrys yr amlder cynyddol o wersylloedd Sipsi a Theithwyr anawdurdodedig a gwella safle parhaol y Cyngor, a holodd a oedd modd cael y wybodaeth ddiweddaraf am y grant gan Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai wybod bod cais am Grant Safleoedd Cyfalaf wedi cael ei gyflwyno i LlC i wella edrychiad safle glan yr afon, a bod y Cyngor wedi cael £250,000 o arian cyfalaf ar gyfer adnewyddu. Gobeithwyd y gellid cwblhau’r gwaith cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau am y sbwriel ar safle glan yr afon, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r arian yn cynorthwyo gydag adnewyddu’r safle a hefyd rheoli’r safle yn y dyfodol. Erbyn hyn, cyfrifoldeb y Cyngor fyddai hynny, yn hytrach na’r trefniant drwy asiantaeth oedd yn digwydd cynt ac yn y gorffennol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.