Mater - cyfarfodydd
Council Fund Budget 2019/20
Cyfarfod: 19/02/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 9)
9 Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 PDF 84 KB
Pwrpas: Derbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i gau’r gyllideb flynyddol ar gyfer 2019/20 yn dilyn trafodaeth y Cyngor ar 29 Ionawr a’r gwaith adolygu pellach ar ddewisiadau cyllid corfforaethol ymhellach a’r risgiau a gymerwyd yn yr interim.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Fund Budget 2019/20, eitem 9 PDF 1 MB
- Enc. 2 for Council Fund Budget 2019/20, eitem 9 PDF 309 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 er mwyn derbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i gau’r gyllideb flynyddol ar gyfer 2019/20 yn dilyn trafodaeth y Cyngor ar 29 Ionawr a’r gwaith adolygu pellach ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a’r risgiau a gymerwyd yn yr interim. Roedd adroddiad y Cyngor o’r 29 Ionawr 2019, a oedd yn cynnwys adroddiad y Cabinet o 22 Ionawr 2019 wedi eu hatodi i’r adroddiad.
Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y ddirprwyaeth i’r Senedd a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, i geisio gwelliant i’r Setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019/20, ynghyd â’r cais a wnaed gan Aelodau yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Ionawr i swyddogion adolygu meysydd penodol o gyllid corfforaethol a dod yn ôl gyda rhagor o gyngor technegol a barn broffesiynol. Dywedodd mai’r meysydd penodol oedd:
- ymrwymiadau Polisi’r Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) a’r posibiliadau o ran lleihau’r cyfraniad refeniw blynyddol drwy ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i leihau cyfanswm y ddyled y gellir ei chyllido.
- y sail resymegol fanwl ar gyfer argymell cadw’r cronfeydd wrth gefn fel y’u rhestrir yn y tabl yn yr adroddiad ac yn sleidiau’r cyflwyniad; a’r
- cyfiawnhad ar gyfer cadw’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd y rhagamcenir y byddant yn aros ar lefel sefydlog dros y flwyddyn nesaf.
Gofynnwyd am eglurhad pellach hefyd o’r posibiliadau o ran gohirio dyledion o dan Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at weithdy briffio’r gyllideb ar gyfer yr holl Aelodau a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, er mwyn cael trafodaeth fanwl am gyllid corfforaethol. Dywedodd bod rhagor o gyngor technegol a barn broffesiynol yn cael eu darparu mewn cyfres o nodiadau cyngor technegol a restrwyd fel papurau cefndir i’r adroddiad, ac roeddynt ar gael ar gais.
Cyflwynodd y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog (Llywodraethu), y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw, gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd allweddol a ganlyn:
- gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys
- crynodeb o sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2019/20
- cyngor (technegol) proffesiynol
- Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) – defnydd o dderbyniadau cyfalaf
- lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn
- cronfeydd wrth gefn nad oeddynt wedi eu clustnodi
- cronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi
- gohirio dyledion a rheoli llif arian
- barnau proffesiynol
- senarios cyllideb
- camau nesaf ac amserlenni
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai dyletswydd y Cyngor ar y cyd yw gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys. Cyfeiriodd at bwysigrwydd cadw at ddyddiadau cau ac eglurodd, o ran preswylwyr a oedd yn talu eu Treth Gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, eu bod yn gorfod cael rhybudd o bythefnos ymlaen llaw o gynnydd mewn taliadau, ac felly byddai angen cymeradwyo cyllideb y Cyngor cyn diwedd mis Chwefror er mwyn gallu cynnig y cyfleuster talu hwn mewn da bryd. Cyfeiriodd at y broses o osod y gyllideb a’r cyngor technegol a phroffesiynol a ddarparwyd i arwain Aelodau.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn union cyn y Cyngor Sir, wedi argymell penderfyniad i’r Cyngor Sir ac wedi gofyn am gael dosbarthu manylion ... view the full Cofnodion text for item 9