Mater - cyfarfodydd
Update on the Code of Practice on Ethical Employment in Supply Chains
Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 333)
333 Y wybodaeth ddiweddaraf am roi’r Cod Cyflogaeth Foesegol ar waith PDF 82 KB
Pwrpas: Hysbysu Aelodau ar gynnydd gyda’r camau gweithredu i roi’r Cod ar waith, a chymeradwyo ein datganiad Caethwasiaeth Fodern blynyddol cyntaf.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Update on implementing the Ethical Procurement Code., eitem 333 PDF 91 KB
- Enc. 2 for Update on implementing the Ethical Procurement Code., eitem 333 PDF 251 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin y Diweddariad ar y adroddiad Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a oedd yn dilyn cymeradwyo mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn y Cabinet ar 19 Mehefin 2018.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), wrth fabwysiadu’r cod, bod y Cyngor yn ymrwymo i gwblhau 32 o weithredoedd er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw ymarfer cyflogaeth anfoesegol ymhlith ei gyflenwyr a’i gontractwyr. Roedd yr ymrwymiadau’n cynnwys rhwymedigaethau i:
· Cymryd camau ymarferol, fel cynhyrchu datganiad caethwasiaeth fodern;
· Cyflwyno systemau a fyddai’n dadorchuddio ac yn atal ymarfer anfoesegol megis asesu risg, boed unrhyw un o gyflenwyr y Cyngor yn annog ymarferion cyflogaeth anfoesegol; ac
· Ymateb os codwyd unrhyw bryderon gyda hynny e.e. honiad nad oedd cyflenwr yn talu cyflog teg i oruchwylio cyflenwyr.
Cymerwyd pob cam ymarferol i weithredu ymrwymiadau - roedd angen rhagor o waith i sicrhau fod systemau’n cael eu rhoi ar waith a bod gweithwyr yn cael eu hyfforddi ynghylch eu bodolaeth a'u defnydd. At ei gilydd, roedd 21 o weithredoedd wedi eu cwblhau.
Un cam ymarferol oedd cymeradwyo datganiad blynyddol ar gaethwasiaeth fodern. Roedd y datganiad yn disgrifio camau’r Cyngor wrth geisio dileu ymarfer anfoesegol o’r fath ac atodwyd drafft o’r datganiad at yr adroddiad.
Mewn ymateb i sylw, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai’r Tîm Caffael yn cynnig cyngor i reolwyr pan fyddai ymarferiadau tendro yn cael eu cwblhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylid nodi cynnydd wrth weithredu ymrwymiadau dan y Cod Ymarfer Moesegol mewn Caffael; a
(b) Cymeradwyo’r datganiad ar gaethwasiaeth fodern.