Mater - cyfarfodydd

Housing Rent Income

Cyfarfod: 18/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 58)

58 Incwm Rhent Tai pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        I ddarparu diweddariad gweithredol ar gasglu rhent a lefelau                                    ôl-ddyledion presennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw adroddiad a oedd yn rhoi mwy o’r wybodaeth weithredol ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran casglu incwm rhent yn dilyn adroddiad diweddar i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2018.  Er gwaethaf yr heriau parhaus sy'n deillio o nifer gynyddol o denantiaid yn symud o dderbyn y Budd-dal Tai i’r system Credyd Cynhwysol, roedd y sefyllfa gasglu ddiweddaraf yn dangos bod casglu rhent yn dechrau sefydlogi o ganlyniad i weithredu mesurau drwy fwy o adnoddau, ymyrraeth gynnar a mabwysiadu dull ‘rhent yn gyntaf', ac roedd cyfanswm y dyledion rhent yn gostwng o £2.22 miliwn i £2.14 miliwn.

 

            I liniaru’r heriau ariannol ar gyfer y Cyngor, roedd gwaith y Timau Ymyrraeth Tai'n parhau ac roedd adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i sicrhau bod tenantiaid a oedd ar ei hôl hi o ran rhent yn derbyn help a chymorth yn gynnar trwy ddull 'cyflym’.  Rhannwyd copi o sefyllfa ddiweddaraf dyledion rhent y tenantiaid sy'n derbyn Credyd Cynhwysol a Budd-dal Tai i’r Pwyllgor.

 

            Eglurodd y Rheolwr Refeniw bod menter arall yn cael ei rhoi ar waith i wella'r systemau meddalwedd ategol sy'n llywio gwaith Swyddogion Gorfodi Rhent, er mwyn sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu targedu i’r tenantiaid hynny sydd angen yr help mwyaf i sicrhau bod rhent yn cael ei dalu ar amser.Roedd gwaith ymarferoldeb wedi’i wneud gyda darparwr meddalwedd ac roedd ei ddatrysiad ‘Rent Sense’ yn prysur ddod yn gyffredin ymysg y diwydiant tai i ddadansoddi amrywiadau talu, risg a phennu pa denantiaid i gysylltu â nhw a phryd. Roedd y feddalwedd yn defnyddio algorithmau i ddadansoddi patrymau talu, amlygu risg a darparu gwybodaeth ddamcaniaethol i gefnogi dull mwy penodol wedi'i dargedu o gasglu dyledion rhent.Byddai datblygu’r feddalwedd hon yn moderneiddio'r gwaith yn y Gwasanaeth Rhent ac yn helpu’r Gwasanaeth i ganolbwyntio’n fwy doeth ar y tenantiaid hynny sydd mewn mwy o berygl o fethu â thalu rhent, gan ryddhau adnoddau mewnol a olygai fod modd rhoi ymyraethau tai ar waith yn sydyn cyn i ddyledion fynd yn waeth.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Rheolwr Refeniw am yr adroddiad a’r wybodaeth ddiweddaraf. Dywedodd ei fod yn ddiweddar wedi gofyn am wybodaeth ynghylch dyledion Treth y Cyngor ar hyn o bryd a oedd wedi’u darparu gan y Rheolwr Refeniw ac a oedd yn dangos dyledion o £3.3 miliwn a gofynnodd a fyddai cynnydd i Dreth y Cyngor yn cael effaith ar ddyledion rhent. Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai'r £3.3 miliwn o ddyledion yn parhau i ostwng gan fod gan breswylwyr yn Sir y Fflint nifer o wahanol ddiwrnodau yn ystod y mis y gallent ddewis talu Treth y Cyngor arnynt. Dywedodd mai’r Cyngor hwn oedd yn dal i berfformio orau o ran casglu Treth y Cyngor, gyda chyfradd gasglu o dros 99%, a oedd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 98%.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hardcastle hefyd at ddau achos o argyfwng roedd wedi ymdrin â nhw yn ei ward dros y penwythnos a dywedodd fod cwmni’r llinell gymorth ar gyfer y gwasanaeth y tu  ...  view the full Cofnodion text for item 58