Mater - cyfarfodydd
Housing Strategy
Cyfarfod: 18/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 57)
57 Strategaeth Tai a chynllun gweithredu PDF 101 KB
Pwrpas: Ystyried y Strategaeth Tai drafft cyn cymeradwyaeth y Cabinet.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Asedau a Thai) adroddiad a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu drafft ar gyfer 2019-2024. Roedd y Strategaeth Tai a'r Cynllun Gweithredu yn nodi’r weledigaeth ynghylch sut y byddai’r Cyngor a’i bartneriaid yn diwallu anghenion o ran tai fforddiadwy, yn darparu cymorth perthnasol i drigolion ac yn sicrhau bod cartrefi cynaliadwy’n cael eu creu.
Amlinellodd y Prif Swyddog y nifer o gyflawniadau o’r Strategaeth Tai flaenorol, fel roeddent wedi'u nodi yn yr adroddiad, ac eglurodd y byddai’r Strategaeth gyfredol yn adeiladu ar gyflawniadau blaenorol yng nghyd-destun yr heriau a oedd yn wynebu’r Cyngor ar hyn o bryd, fel diwygio'r gyfundrefn les, y cynnydd mewn digartrefedd ‘cudd’ a phrinder adnoddau. Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r 3 blaenoriaeth a nodwyd gyda meysydd allweddol i weithredu arnynt ynghlwm â phob blaenoriaeth.
Roedd disgwyl i weithdy gael ei gynnal ym mis Chwefror 2019 gyda budd-ddeiliaid allweddol, Partneriaid Cymdeithas Dai'r Cyngor a grwpiau eraill, i adolygu'r cynllun gweithredu, er mwyn: sicrhau bod y camau gweithredu a nodwyd ar gyfer pob blaenoriaeth yn gynhwysfawr, yn ymarferol ac yn fforddiadwy; nodi unrhyw fylchau o ran y camau a restrwyd a nodi canlyniadau a sefydliadau arweiniol. Byddai fersiwn derfynol y Strategaeth Tai a’r Cynllun Gweithredu ar gael yng ngwanwyn 2019.
Canmolodd y Cynghorydd Shotton y swyddogion am yr adroddiad. Soniodd am y fenter gymdeithasol ar Ynys Môn a oedd yn darparu adeiladau ffrâm bren a gofynnodd a fyddai posib' ystyried adeiladu cartrefi tebyg er mwyn cyflymu'r rhaglen adeiladu tai ac ateb y galw cynyddol. Atebodd y Prif Swyddog gan ddweud bod nifer o wahanol gysyniadau adeiladu tai a oedd ar y farchnad ar hyn o bryd yn cael eu hystyried.
Soniodd y Cynghorydd Wisinger bod angen gwella mynediad i’r sector rhentu preifat a gofynnodd sut roedd landlordiaid lleol yn cael eu hannog i osod eu heiddo. Cydnabyddai’r Cynghorydd Attridge yr anawsterau wrth drafod gyda landlordiaid lleol a soniodd am ei bryderon bod nifer uwch o landlordiaid yn gwrthod ceisiadau gan bobl a oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol. Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Tai bod cyfarfod gyda landlordiaid lleol yn cael ei drefnu i ddod i ddeall eu pryderon yn well a gwella perthynas waith y Cyngor â nhw.
Dywedodd John Ennis, Cadeirydd Ffederasiwn y Tenantiaid, wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod mewn cynhadledd yng Nghaerdydd a oedd wedi trafod dulliau adeiladu amgen a gofynnodd a oedd y Cyngor wedi derbyn unrhyw adborth o’r gynhadledd hon. Dywedodd y Prif Swyddog bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau adeiladu amgen a bod y Cyngor yn disgwyl am wybodaeth yngl?n â grant ar gyfer hyn.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Hughes, cytunodd y Prif Swyddog i gyflwyno adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol i'r Pwyllgor ar y cysyniad a'r opsiynau a oedd ar gael o ran defnyddio cartrefi unedol i gynyddu cyflenwad y Cyngor o dai.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Hutchinson ynghylch tai ffrâm bren a risg tân uwch, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 57