Mater - cyfarfodydd
Town Centre Regeneration
Cyfarfod: 14/05/2019 - Cabinet (eitem 3)
3 Adfywio Canol y Dref PDF 98 KB
Pwrpas: Amlinellu dull y dyfodol ar gyfer adfywio canol trefi yn y Sir.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Adfywio Canol y Dref a baratowyd mewn ymateb i’r tri ffactor sbarduno allweddol canlynol:
1. Amodau economaidd heriol parhaus y mae canol trefi yn y DU yn eu hwynebu;
2. Ymrwymiad yng Nghynllun y Cyngor 2018/19 i ddatblygu ymateb; a’r
3. Pryderon a fynegwyd gan Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ynghylch hyfywedd canol trefi Sir y Fflint a’r angen i’r Cyngor gynnig ymateb rhagweithiol.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r heriau economaidd sy’n wynebu canol trefi ac sy’n effeithio ar eu cynaliadwyedd. Amlinellwyd cyfres o ymatebion cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth o ran defnyddiau mewn trefi, i gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliaid lleol a chefnogi busnesau i addasu a chystadlu’n fwy effeithlon.
Roedd y Cyngor wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i gryfhau arweinyddiaeth gymunedol leol, a dyfynnwyd yr enghreifftiau canlynol:
· Gweithio gyda budd-ddeiliaid Treffynnon ar ddatblygu trefn lywodraethu newydd ar gyfer y ganolfan hamdden ac ar gynllun treialu i ailagor y Stryd Fawr i draffig;
· Cefnogi Cyngor Tref Bwcle i ddatblygu cynllun gweithredu tymor hir ar gyfer y dref;
· Dod â budd-ddeiliaid Fflint ynghyd i lywio’r broses o adfywio a gweddnewid y dref a datblygu eu dyheadau ar gyfer yr ardal ger y d?r;
· Gweithio gyda budd-ddeiliaid Glannau Dyfrdwy i ddatblygu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer yr ardal a sicrhau buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru (LlC) tuag at ei darparu; a
· Chefnogi budd-ddeiliaid yn yr Wyddgrug i ddatblygu cynllun tref tymor hir a sefydlu model llywodraethu ar gyfer rheoli man gwyrdd cymunedol.
Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a’r cynigion sylweddol i helpu’r heriau a wynebir gan ganol trefi. Cyfeiriodd at nifer yr unedau o fewn trefi nad oedd yn eiddo i fusnesau lleol a’r anawsterau a wynebir wrth geisio cysylltu â landlordiaid absennol, a gofynnodd beth ellid ei wneud i’w hannog i gydweithio â’r Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at stafelloedd uchaf unedau gwag y gellid eu defnyddio i fynd i’r afael â phrinder tai. Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Cyngor wedi ceisio cysylltu â nhw droeon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny’n ofer, ond y byddai’n dal i ymdrechu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at ddatblygiad Ardaloedd Gwella Busnes, sef cwmnïau a sefydlwyd gan y gymuned fusnes leol i fuddsoddi yn eu hardal oedd yn gwella amodau masnachu busnesau, yn denu cwsmeriaid ac yn lleihau costau gweithredu. Roedd dros 300 ohonynt yn y DU ac roeddent yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu Ardal Gwella Busnes yng nghanol tref yr Wyddgrug.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r dull arfaethedig o helpu i adfywio canol trefi yn Sir y Fflint; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i Brif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i wneud cais am gyllid allanol fel y daw ar gael i gefnogi’r dulliau o adfywio canol y dref.