Mater - cyfarfodydd

Community Health Council (Presentation)

Cyfarfod: 31/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 51)

Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru: Gwella gwasanaethau iechyd i bobl yng Ngogledd Cymru

Pwrpas:        Derbyn cyflwyniad gan Carol Williams, y Dirprwy Brif Swyddog a                 Linda Harper, Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint.

 

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Carol Williams, Dirprwy Brif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymuned, a Linda Harper, Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint, i’r cyfarfod. Fe’i gwahoddodd hwy i roi cyflwyniad ar y Cyngor Iechyd Cymuned:Gwella gwasanaethau iechyd i bobl yng Ngogledd Cymru. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:

 

·         Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru

·         beth mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn ei wneud

·         sut mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn gweithio

·         enghreifftiau Sir y Fflint o waith y Cyngor Iechyd Cymuned

·         pwyntiau allweddol y Cyngor Iechyd Cymuned

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Swyddog a Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i godi cwestiynau.

 

Aeth y Dirprwy Brif Swyddog ati i godi ymwybyddiaeth yngl?n â’r ymgyrch am sganiau MRi ar gyfer y prostad a dywedodd fod nifer o gleifion wedi gorfod ariannu sganiau eu hunain.Dywedodd fod y Cyngor Iechyd Cymuned wedi gwneud sylwadau a bod costau nawr yn cael eu had-dalu i bobl.Dywedodd fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn parhau i gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ward Tawel Fan. Fe wnaeth y Dirprwy Brif Swyddog sylw ar yr angen i dâl a gaiff ei godi am barcio ceir mewn ysbytai i fod yn rhesymol ac am bwysigrwydd cadw canol trefi yn fywiog.Yn dilyn awgrym gan Gadeirydd y Pwyllgor cytunwyd fod llythyr yn cael ei anfon i Aelodau Cynulliad yng Ngogledd Cymru cyn i’r e-ddeiseb gael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ar 13 Chwefror yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd i sicrhau nad yw sganio am gancr y prostad yn destun loteri côd post yng Nghymru.

Fe wnaeth y Cynghorydd David Healey sylw ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn Sir y Fflint a dywedodd ei bod yn anodd ffurfio barn.Teimlai un ai fod yna fwy o ymwybyddiaeth neu fod yna gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl. Gofynnodd sut mae'r ddarpariaeth o ran iechyd meddwl yn Sir y Fflint yn cymharu â gwasanaethau iechyd meddwl a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol eraill gan fod rhestrau aros iechyd meddwl ar gyfer gwasanaethau wyneb i wyneb yn bryder.Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Healey at Parabl a dywedodd ei bod yn ymddangos fod yna amheuaeth a fyddai’r sefydliad hwn yn parhau. 

Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Swyddog at y cyfarfod tîm iechyd meddwl ar y cyd a oedd wedi ei gynnal rhwng Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a dywedodd fod Parabl yn sefydliad trydydd sector a oedd yn cynnig therapïau siarad i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.Roedd yn cydnabod fod yna restr aros hir i rai gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd fod hyn yn broblem barhaus.Dywedodd fod Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, yn dilyn trafodaethau rhwng Cadeirydd y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Iechyd Cymuned, wedi cytuno i ddarparu mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl o fewn BIPBC.

Cyfeiriodd Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint at y mesurau arbennig a osodwyd ar y Bwrdd Iechyd a dywedodd fod iechyd  ...  view the full Cofnodion text for item 51