Mater - cyfarfodydd
Digital Strategy Update
Cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet (eitem 317)
317 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol PDF 104 KB
Pwrpas: I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gynnydd a diffinio a chyflawni’r Strategaeth Ddigidol gyda chrynodeb o drafodaeth yn y gweithdy Strategaeth Ddigidol diweddar gydag Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwydyr adroddiad ar yr uchod gan y Cynghorydd Mullin ac roedd yn rhoi manylion am gynllun y rhaglen ddigidol sengl a fyddai’n helpu’r Cyngor i reoli ei adnoddau cyfyngedig yn fwy effeithiol a gwneud dewisiadau gwell a mwy gwybodus ynghylch blaenoriaethu.
Egurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod nifer o faterion allweddol cysylltiedig â’r strategaeth ddigidol wedi eu harchwilio gyda'r Aelodau mewn sesiwn friffio ym mis Ionawr 2019, yn benodol:
· I atgoffa pawb pam bod angen symud ymlaen â darpariaeth gwasanaethau digidol
· Eglurhadar sut y gallai’r Cyngor sicrhau na chaiff unrhyw un eu cau allan o ganlyniad i ychwanegiad gwasanaethau ar-lein.
· Trosolwgo’r gwasanaethau digidol presennol a’r gwersi a ddysgwyd wrth eu darparu; a
· Disgrifiado'r camau nesaf sydd i'w lansio
Cydnabuwydfod datblygiad a darpariaeth y Strategaeth Ddigidol yn ymrwymiad tymor hir a fyddai’n gofyn am ymgysylltiad a thrafodaethau cyson gyda’r gwasanaethau, cwsmeriaid ac aelodau etholedig. Ynunol â hynny, roedd ymrwymiad i adrodd i, a chael sgyrsiau'n barhaus gydag aelodau wrth i’r ddarpariaeth gychwyn.
Ermwyn sicrhau bod safonau cyson yn cael eu defnyddio o ran y modd y caiff prosiectau eu dylunio a gwasanaethau eu moderneiddio, cytunwyd ar nifer o egwyddorion dylunio a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Mewnymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai dulliau amgen o gyfathrebu yn dal i fodoli ar gyfer y rhai hynny nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’rprif bwyntiau’n codi o friff mis Ionawr ar gyfer aelodau etholedig ar ddatblygiad gwasanaethau ar-lein ar gyfer cwsmeriaid; a
(b) Cymeradwyo’regwyddorion dylunio a’r rhaglen ar gyfer darparu’r Strategaeth Ddigidol.