Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report

Cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet (eitem 314)

314 Monitro Cynllun y Cyngor Chwarter 3 (Hyd – Rhag 2018) pdf icon PDF 156 KB

Pwrpas:        I gael sicrwydd o gynnydd yn ôl ymrwymiadau a blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 a oedd yn adroddiad seiliedig ar eithriadau yn canolbwyntio ar feysydd o dan-berfformiad. 

 

Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu bod Sir y Fflint yn Gyngor uchel ei berfformiad fel y gellir ei weld o adroddiadau monitro Cynllun y Cyngor blaenorol, yn ogystal ag o Adroddiadau Perfformiad Blynyddol y Cyngor. Roeddyr ail adroddiad  monitro hwn ar Gynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol, gyda 92% o weithgaredd yn cael ei asesu fel bod yn gwneud cynnydd da, ac 85% yn debygol o wireddu’r canlyniad a ddymunir.  Ynychwanegol, roedd 67% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (61%), mân neu’n ddibwys (6%).

 

 O ran y statws RAG coch ar gyfer y nifer o ddyddiau calendr a gymerir ar gyfartaledd i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl, roedd hwn yn faes sydd wedi bod angen ei wella ers sawl blwyddyn. Roeddachosion h?n o 2017-18 yn effeithio ar berfformiad, gan eu bod yn dod a’r ffigwr i lawr o gymharu ag achosion y flwyddyn hon sy’n cael eu cwblhau gan ddilyn y prosesau newydd a gwell. Mae’r dystiolaeth fel a ganlyn:

 

 

 

·          Roeddpum addasiad a wnaed yn Chwarter 2 yn achosion a etifeddwyd o 2017/18 ac wedi cymryd 397 o ddyddiau ar gyfartaledd.

·          Cwblhawyd tri addasiad o hawliadau 2018/19, gan ddefnyddio’r ymdriniaeth newydd, ar gyfartaledd o 198 diwrnod.

 

 Unwaithyr oedd yr ôl groniad o waith wedi'i etifeddu wedi'i gwblhau yn ystod gweddill y flwyddyn, byddai perfformiad 2019/20 yn dangos gwelliant amlwg.  DiolchoddCyngorydd Attridge i’r Prif Weithredwr a'r swyddogion a oedd yn rhan o’r gwaith a wnaed i leihau nifer y dyddiau a gymerir i gwblhau Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Roedd y Cynghorydd Bithell hefyd yn croesawu'r gwelliannau, ond dywedodd bod angen lleihau nifer y dyddiau eto fyth.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y lefelau o gynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 yn cael eu nodi a’u cymeradwyo; a

 

(b)       Bod y cynlluniau a'r camau gweithredu i reoli darpariaeth Cynllun y Cyngor 2018/19 wedi rhoi sicrwydd i'r Cabinet.