Mater - cyfarfodydd
Accelerated Payment Facility
Cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet (eitem 320)
Cyfleuster Taliad Cyflym
Pwrpas: Cymeradwyo cynllun talu anfonebau’n gynt i gyflenwyr a allai yn ei dro greu incwm i’r Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y Cyfleuster Talu Cyflymedig sy’n rhoi manylion am sut y gallai’r Cyngor dalu ei gyflenwyr yn gynt, ac o bosibl gynhyrchu incwm ar yr un pryd. Roeddmanteision llawn y cynllun wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i'r Cyngor gyflwyno Cyfleuster Taliadau Cyflymedig;
(b) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) ymgymryd ag ymarfer caffael a sefydlu contract gyda Darparwr Gwasanaeth yn unol ag egwddorion yr adroddiad.
(c) Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet dros Reolaeth Corfforaethol ac Asedau, i weithredu’r newidiadau angenrheidiol i bolisiau ac arferion y Cyngor yn ôl yr angen; a
(d) Bod adolygiad o berfformiad ac effaith yn cael ei gynnal ymhen 12 mis.