Mater - cyfarfodydd

Diversity and Equality Policy 2019

Cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet (eitem 313)

313 Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb 2019 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r Polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb diwygiedig cyn ei gyhoeddi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad ar Bolisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb 2019 er cymeradwyaeth cyn ei gyhoeddi. Nod cyffredinol y polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb yw:

 

·         Dileugwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu;

·         Hyrwyddocyfle cyfartal; a

·         Meithrinperthnasau da rhwng cymunedau amrywiol

 

ynnarpariaeth gwasanaethau, nwyddau, gwaith a chyfleusterau, darpariaeth grantiau ac ymgysylltiad a phartneriaid y Cyngor.

 

            Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu nad yw’n ofyniad llunio a chyhoeddi polisi, fodd bynnag mae cyhoeddi polisi’n dangos ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb ac i drin pawb yn deg. 

 

            Roeddyr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol a chafodd ei groesawu.

 

            Soniodd y Cynghorwyr Bithell a Jones am ddigwyddiad yr oeddent wedi cael y fraint o'i fynychu y diwrnod cynt, lle cafwyd cyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Alun yr Wyddgrug fel rhan o fis hanes LGBT yn ymwneud ag annog pobl i fod yn fwy goddefgar ac i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylid Cymeradwyo’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth cyn ei gyhoeddi a’i weithredu, a

 

(b)       Nodi'rcamau sy’n cael eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n cwblhau'r modiwlau e-ddysgu ar gydraddoldeb.