Mater - cyfarfodydd
Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report
Cyfarfod: 18/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 43)
43 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 PDF 114 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi crynodeb o berfformiad Chwarter 3 (mis Hydref tan fis Rhagfyr 2018) ar gyfer sefyllfa blaenoriaeth Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’ 2018/19 a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Hysbyswyd yr Aelodau bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol a’i fod yn dangos bod 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 85% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Yn ogystal â hyn, roedd 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed. Roedd y risgiau’n cael eu rheoli gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (61%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (22%). Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.
PENDERFYNWYD:
Bod Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 yn cael ei nodi.