Mater - cyfarfodydd
Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report
Cyfarfod: 13/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 64)
64 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 PDF 127 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Council Plan 2018/19 – Year-end Progress Report – Supportive Council, eitem 64 PDF 2 MB
- Appendix 1 – Council Plan 2018/19 – Year-end Progress Report – Ambitious Council, eitem 64 PDF 948 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bernie Attridge adroddiad i roi crynodeb o berfformiad ar gyfer Chwarter 3 (Hydref i Rhagfyr 2018) sefyllfa 20018/19 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Swyddog bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol ac yn dangos bod 92% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gydag 85% yn debyg o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir. Roedd 67% o’r dangosyddion perfformiad wedi diwallu neu ragori ar eu targedau. Roedd risgiau yn cael eu rheoli gyda’r mwyafrif yn cael eu hasesu fel cymedrol (61%) a mân/ansylweddol 22%. Roedd yr adroddiad yn eithriad yn seiliedig ar adroddiad ac felly yn canolbwyntio ar y meysydd oedd yn tanberfformio.
Roedd y Cynghorydd Attridge yn adrodd ar y dangosyddion perfformiad canlynol oedd yn dangos statws Coch Melyn Gwyrdd ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed:
· Nifer cyfartalog y diwrnodau calendr a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl
· bydd lefelau dyledion yn codi os nad yw tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at dudalen 166 o’r adroddiad a soniodd am effaith Credyd Cynhwysol a’r caledi a achoswyd i nifer o unigolion a theuluoedd oherwydd yr amser a gymerir i brosesu ceisiadau. Dywedodd bod angen rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y pryderon.
Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn cydnabod y pwyntiau a wnaed ac yn egluro bod gwaith wedi dechrau i nodi effaith Credyd Cynhwysol ar Denantiaid y Cyngor a’u cyfrifon rhent. Dywedodd fod tîm wedi gweithio gyda thenantiaid gynted â phosibl i nodi ac ymyrryd yn fuan (os yn briodol) i atal problemau rhag codi a rhoi mwy o siawns o’r cyfrif rhent yn dod yn ôl o dan reolaeth ac allan o ôl-ddyledion. Hefyd dywedodd fod gan y Cyngor bellach statws ‘Partner y Gellir Ymddiried ynddo’ gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau oedd yn golygu bod prosesau a llif gwybodaeth a thaliadau yn symlach ac yn awtomataidd. Roedd casgliadau treth y cyngor yn parhau dan bwysau. Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 26 Mehefin 2019.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr anawsterau a brofwyd gan bobl ar incwm isel a’r angen i godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ac adolygu sut yr oedd yn cael ei hysbysebu. Mewn ymateb, cytunodd y Rheolwr Budd-Daliadau i adolygu gwerth hysbysebu’r cynllun yn unol ag ymgyrch Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Nodi Adroddiad Monitro 2018/19 Cynllun y Cyngor Chwarter 3.