Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report

Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 92)

92 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu grynodeb o’r cynnydd ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2017-23 yn Chwarter 3 2018/19 gan ddarparu dadansoddiad o feysydd o danberfformio a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda 92% o’r camau gweithredu wedi’u nodi fel rhai a oedd yn gwneud cynnydd da, a bod 85% yn debygol o gyflawni’r canlyniad dymunol.

 

Nodwyd bod 65% o ddangosyddion perfformiad wedi cyflawni neu wedi rhagori ar y targedau.  O’r tri maes a oedd yn dangos statws coch RAG, gwnaed cynnydd sylweddol i leihau’r nifer cyfartalog o ddyddiau a gymerwyd i gwblhau Grantiau Cyfleusterau Anabledd ac roedd disgwyl gwelliannau pellach ar gyfer 2019/20 ar ôl i’r ôl-groniad o achosion etifeddiaeth gael eu cwblhau.  Byddai’r bwrdd adolygu Grantiau Cyfleusterau Anabledd yn parhau i fonitro cynnydd ac roedd eu cydweithwyr Archwilio Mewnol yn fodlon bod y cynnydd ar y trywydd cywir.  Cafwyd peth gwelliant yng nghanran y plant sy’n derbyn gofal gydag asesiad iechyd amserol, fodd bynnag, roedd y canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan gapasiti partneriaid Iechyd.

 

Roedd risgiau’n cael eu rheoli’n llwyddiannus gyda’r mwyafrif ohonynt wedi’u hasesu fel mân risgiau/risgiau anarwyddocaol ac roedd risgiau a oedd yn gysylltiedig â datblygu Marleyfield ac effeithiolrwydd yr Hwb Cymorth Cynnar wedi’u lliniaru’n ddigonol i gael eu datrys.  Roedd chwech o’r saith risg coch yn cael eu heffeithio gan yr hinsawdd ariannol bresennol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mullin i’r Swyddog Gweithredol a’i thîm am eu gwaith a chroesawodd y cynnydd a gyflawnwyd hyd yma.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Heesom agweddau cadarnhaol yr adroddiad ond mynegodd bryderon yngl?n â’r cynnydd ar yr amcanion yn y flaenoriaeth Cyngor Uchelgeisiol, yn benodol ar y strategaeth drafnidiaeth ranbarthol a lleol a godwyd yng nghyfarfod y Gr?p Strategaeth Cynllunio.  Dywedodd bod angen gwybodaeth bellach am y seilwaith traffig a’r twf economaidd ar draws y Sir.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu grantiau trafnidiaeth, byddai datblygu corff Trafnidiaeth Cymru yn golygu mai dylanwad cyfyngedig fyddai gan gynghorau.

 

Fe ganmolodd y Cynghorydd Johnson y gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a’r Cynghorau Tref/Cymuned er mwyn cyflawni canlyniadau da yng ngorllewin Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo:

 

·         Y lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau yng Nghynllun y Cyngor;

·         Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;

·         Y lefelau risg presennol yng Nghynllun y Cyngor.

 

(b)       Y byddai’r Pwyllgor wedi’i sicrhau gan y cynlluniau a’r camau gweithredu i reoli’r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19.