Mater - cyfarfodydd

Town Centre Regeneration

Cyfarfod: 01/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 69)

69 Adfywio Canol Trefi pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Amlinellu ymdriniaeth y dyfodol o ran adfywio Canol Trefi yn y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Menter ac Adfywio adroddiad i ddisgrifio’r dull ar gyfer adfywio canol trefi’r sir.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad wedi’i lunio mewn ymateb i’r amodau economaidd heriol a wynebir gan ganol trefi; ymrwymiad yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 i ddatblygu ymateb; a phryderon ynghylch bywiogrwydd canol trefi Sir y Fflint a’r angen i’r Cyngor sefydlu dull rhagweithiol.

 

Adroddodd y Rheolwr Menter ac Adfywio ar yr ystyriaethau allweddol, fel y nodir yn yr adroddiad, mewn perthynas â’r dull ar gyfer adfywio canol trefi a chyfeiriodd ar yr heriau economaidd sy’n wynebu canol trefi ar draws y DU sy’n effeithio ar eu cynaliadwyedd.Darparodd amlinelliad o’r ymatebion arfaethedig i gynyddu defnydd amrywiol canol trefi ; i gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliaid lleol; ac i gefnogi busnesau addasu a chystadlu’n fwy effeithiol.Cyfeiriodd hefyd at ddarparu Gweledigaeth Dwf Gogledd Cymru sydd, trwy’r cam cychwynnol o brosiectau cyfalaf y Fargen Twf a rhaglenni ehangach o waith, yn golygu bod yna botensial i ddod â manteision sylweddol i ganol ein trefi.Eglurodd y byddai prosiectau penodol eraill fel seilwaith digidol yn helpu i wella cystadleurwydd busnesau a chysylltedd canol trefi.

 

Soniodd y Cadeirydd am gau banciau’r stryd fawr ac am y cynnig i godi tâl ar bobl am dynnu arian allan o beiriannau arian a fyddai, yn ei farn ef, yn cael effaith andwyol pellach ar yr angen i ymweld â chanol trefi.

 

Soniodd y Cyng. Rosetta Dolphin am effaith marchnadoedd stryd yn y sir a’u hyfywedd yn y dyfodol.

 

Siaradodd y Cyng. Paul Shotton am rôl Rheolwyr Canol Trefi a’u gwybodaeth a’u cysylltiadau lleol.Dywedodd fod yn rhaid i fudd-ddeiliaid, Cynghorau Tref a Chymuned a chymunedau gydweithio i ddatblygu cyfleoedd entrepreneuraidd.Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth am y rhaglen Ardal Gwella Busnes a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r rhaglen yn canolbwyntio ar yr Wyddgrug ond dywedodd y byddai’n cael ei monitro i weld a fyddai modd cynnal y rhaglen mewn trefi eraill yn y sir.

 

Datganodd y Cyng. Dennis Hutchinson nifer o bryderon ynghylch adfywio canol tref Bwcle ac estynnodd wahoddiad i Aelod Cabinet Datblygu Economaidd a’r Rheolwr Menter ac Adfywio ddod i gyfarfod o Gyngor Tref Bwcle i drafod y ffordd ymlaen.Derbyniodd y Cyng. Derek Butler y gwahoddiad a phwysleisiodd fod y Cyngor yn croesawu pob awgrym ar gyfer gwelliant economaidd.Dywedodd fod yr holl gyfleoedd a gyflwynwyd wedi’u harchwilio’n fanwl a bod sawl adwerthwr mawr wedi’u cysylltu â nhw ond, am resymau masnachol, roeddynt wedi penderfynu peidio ag agor siopau newydd yn yr ardal.Siaradodd y Cyng. Butler hefyd am yr adnoddau cyfyngedig a’r amodau sydd ynghlwm wrth grantiau untro a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ardaloedd o amddifadedd.

 

Dywedodd y Cyng. Patrick Heesom fod angen rhwydwaith ffordd a gwasanaethau cludiant cyhoeddus gwell i ganol trefi er mwyn cynyddu nifer y busnesau a’r ymwelwyr.Gofynnodd hefyd fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau ar adfywio canol trefi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dull ar gyfer adfywio canol trefiSir y Fflint.