Mater - cyfarfodydd

Development of 2019/20 – 2021/22 Capital Programme

Cyfarfod: 19/02/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 9)

9 RHAGLEN GYFALAF CRONFA'R CYNGOR 2019/20 - 2021/22 pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas: I gymeradwyo cynlluniau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen Gyfalaf dros gyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad i gymeradwyo cynlluniau i’w cynnwys o fewn y Rhaglen Gyfalaf dros gyfnod o 3 blynedd 2019/20 - 2021/22. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog y wybodaeth gefndirol a chyflwynodd y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, o ran datblygu rhaglen gyfalaf 2019/20 a 2021/22. Cyfeiriodd at y diffyg o £8.216m yn Nhabl 1 – cyllid a amcangyfrifir 2018/19 – 2020/19, y diffyg o £1.428m yn Nhabl 2 – cyllid a amcangyfrifir 2018/19 – 2020/21, a’r swm cyllid o £26.740m yr amcangyfrifir y bydd ar gael 2019/20 – 2021/22. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog hefyd at Raglen Gyfalaf Gyffredinol 2019/20 - 2021/22 a dyraniadau asedau statudol/rheoleiddiol ac a gedwir 2019/20 - 2021/22.  Adroddodd ynghylch dyraniadau arfaethedig 2019/20 a 2021/22 fel y manylwyd yn Nhabl 4, cynlluniau buddsoddi arfaethedig 2019/20 - 2021/22 fel y manylwyd yn Nhabl 5, a’r rhaglen gyfalaf gryno (a gyllidir yn gyffredinol) 2019/20 - 2021/22 fel y manylwyd yn Nhabl 6 o’r adroddiad a oedd yn dangos diffyg presennol o £0.374m.

 

 Gan gyfeirio at grantiau penodol a benthyca, adroddodd y Prif Swyddog ar raglen Band B Ysgolion yr 21 Ganrif, ynghyd â benthyciadau’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) i gartrefi NEWYDD ar gyfer tai fforddiadwy. Rhoddwyd manylion y cynlluniau a gyllidwyd yn benodol ar gyfer 2019/20 – 2021/22 yn Nhabl 7 yn yr adroddiad. Adroddodd hefyd am gyfanswm cryno Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor           2019/20 – 2021/22 a dywedodd bod manylion cyfanswm y cynigion ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf i’w gweld yn Nhabl 9. I gloi, soniodd y Prif Swyddog am gynlluniau posibl i’r dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Patrick Heesom y dylid rhoi ystyriaeth i werthu Theatr Clwyd er mwyn rhyddhau cyllid i gynorthwyo’r arbedion yn y gyllideb ar gyfer yr Awdurdod. Eglurodd y Prif Weithredwr bod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei gwneud ar hyn o bryd i ystyried model amgen yn y dyfodol a allai leihau’r cymhorthdal ymhellach. Dywedodd na allai theatrau taleithiol weithredu heb ryw fath o gymhorthdal cyhoeddus: yr opsiynau oedd cynnal y ‘status quo’, model amgen a oedd yn fwy cost effeithiol, neu gau yn y pendraw.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ar y Rhaglen Gyfalaf y dywedodd ei fod yn barhad o’r rhaglen dreigl 3 blynedd, gyda chyfanswm buddsoddiad ar gyfer isadeiledd yn y sir o £49m. Aeth ymlaen i ddweud bod cyfanswm y buddsoddiadau cyfalaf ac isadeiledd, gan gynnwys y HRA, yn tua                       £83m yn y 3 blynedd nesaf. Siaradodd y Cynghorydd Shotton am y buddsoddiad sylweddol o £3.7m mewn gwelliannau priffyrdd yn y 3 blynedd nesaf a diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas am lobïo LlC yn barhaus er mwyn cyflawni rhagor o gyllid ar gyfer hyn. Siaradodd hefyd am y buddsoddiad mewn TG mewn ysgolion i ddarparu gwelliannau yr oedd eu mawr angen o ran cysylltedd, parhad ymrwymiad i gyllido cwblhau cynlluniau gwaith yn Ysgol Uwchradd Castell Alun, Ysgol Glan Aber ac Ysgol Uwchradd Cei Connah, ynghyd â gwelliannau  ...  view the full Cofnodion text for item 9