Mater - cyfarfodydd
Capital Strategy Including Prudential Indicators 2019/20 – 2021/22
Cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet (eitem 312)
312 Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys Dangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22 PDF 91 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys ystod o Ddangosyddion Darbodus sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Gyfalaf dros y cyfnod 3 blynedd 2019/20 – 2021/22.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Gyfalaf gan gynnwys adroddiad ar Ddangosyddion Darbodus 2019/20 – 2021/22 er cymeradwyaeth ac i’w argymell i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Roeddyr adroddiad yn egluro’r angen am y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob un o'r adrannau. Roeddyr adroddiad hefyd wedi’i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol y flwyddyn flaenorol a doedd dim sylwadau i'w bwydo'n ôl.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor, a:
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r canlynol ac yn eu hargymell i'r Cyngor:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2019/20 – 2021/22 fel y’u nodir yn Nhablau 1 a 4-7 o’r Strategaeth Gyfalaf.
· Dirprwyoawdurdod i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol wneud symudiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt wahân o fewn y terfyn dyledion allanol awdurdodedig a’r terfyn gweithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 o’r Strategaeth Gyfalaf).