Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage Driver Licence

Cyfarfod: 17/01/2019 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 4)

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

GWRANDAWIAD DAU

 

YN BRESENNOL: Cynghorydd Tony Sharps (Cadeirydd)

Cynghorwyr: David Cox a Mike Reece

 

SWYDDOGION CYNGOR SIR Y FFLINT

Cyfreithiwr, Arweinydd y Tîm Trwyddedu a Swyddog Pwyllgor Sir y Fflint

 

Yr Ymgeisydd

 

 

Cyn dechrau’r cyfarfod esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi gofyn i’w gyflogwr cyfredol gael bod yn bresennol yn y cyfarfod. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod yn dymuno i’w gyflogwr fod yn bresennol a gofynnodd am ganiatâd iddo siarad ar ei ran os oedd angen.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’r Parti a Diddordeb a chyflwynodd Aelodau’r Is-Bwyllgor a swyddogion y Cyngor. Eglurordd beth fyddai trefn y gwrandawiad, yn cynnwys sut byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

 

4.         CAIS AM DRWYDDED YRRU (AR Y CYD) CERBYD HURIO PREIFAT  CERBYD HACNI

 

                        Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru (Ar y Cyd) ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni, wedi’i drwyddedu gan yr Awdurdod.

 

Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol, fodd bynnag nid oedd yr ymgeisydd wedi llenwi’r rhan hon o’r ffurflen. Wedi derbyn datgeliad troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), daeth euogfarn i’r amlwg. Atodwyd manylion llawn yr euogfarn at yr adroddiad. Gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu esboniad ysgrifenedig am yr euogfarn a’i fethiant i gwblhau adran 5 o’r cais ac atodwyd hwn hefyd at yr adroddiad. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is Bwyllgor Trwyddedu iddynt benderfynu a oedd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru (Ar y Cyd)

 

                        Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd egluro amgylchiadau ei euogfarn fel y manylwyd arni yn yr adroddiad. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi cyrraedd y Derynas Unedig yn 2005 ac wedi rhoi manylion ei amgylchiadau personol yr adeg honno a’i angen i ddod o hyd i waith taladwy ar frys. Dywedodd ei fod wedi cael cerdyn cofrestru drwy gyswllt iddo a oedd yn delio â’r materion hyn a bod y cerdyn wedi’i alluogi i ddod o hyd i waith. Fodd bynnag, yn dilyn ymweliad ac ymholiadau gan swyddogion mewnfudo yn ei le gwaith, daeth i’r amlwg fod ei gerdyn cofrestru yn anghyfreithlon ac yn sgil hynny fe’i cafwyd yn euog o ddefnyddio cerdyn cofrestru wedi’i newid gyda’r bwriad o dwyllo.

 

                        Cwestiynodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei hanes cyflogaeth a gofynnodd iddo egluro pam nad oedd wedi datgelu ei euogfarn ar ei gais. Eglurodd yr ymgeisydd nad oedd wedi sylweddoli fod y cerdyn cofrestru yn ffug. Dywedodd ei fod wedi bod o dan y camargraff nad oedd angen iddo ddatgelu ei euogfarn gan iddi gael ei chyflawni yn 2009 a hefyd nad oedd yn si?r a oedd yn berthnasol i’w gais fel trosedd. Gofynnodd y Cyfreithiwr am wybodaeth bellach gan yr ymgeisydd ynghylch sut roedd wedi dod i hyd i waith yn dilyn ei euogfarn. Eglurodd yr ymgeisydd, pan oedd yn y ddalfa, ei fod wedi gwneud cais, gyda chymorth swyddogion mewnfudo, am gerdyn cofrestru newydd a gafodd ei  ...  view the full Cofnodion text for item 4