Mater - cyfarfodydd

2019/20 Council Fund Budget Update

Cyfarfod: 31/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 36)

36 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllido Addysg, gan gynnwys manylion am grantiau penodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar sefyllfa gyllido ddiweddaraf y Gwasanaethau Addysg wrth i ni ddynesu at gamau olaf y broses o bennu’r gyllideb ar gyfer 2019/20. Er bod rhywfaint o welliant o gymharu â’r rhagolwg gwreiddiol, mae Setliad Terfynol y Llywodraeth Leol yn dal yn annigonol i fodloni gofynion cyllido'r Cyngor.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod nifer o wasanaethau addysg yn dibynnu ar gyllid grant, sy’n mynd yn llai pob blwyddyn. Mae adolygiad cynhwysfawr o gyllidebau wedi dangos nad oes lle i wneud rhagor o arbedion na’r rheiny sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad heb beryglu cadernid gwasanaethau’r Cyngor a safonau ysgolion. Gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gost gweithredu’r dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer 2019/20, mae’r Cyngor wedi gwneud darpariaeth i godi’r sylfaen gyllido i gwrdd â chynnydd o 1%, gyda’r ysgolion yn amsugno’r balans sy’n weddill. Rhagwelir pwysau pellach o ran costau i ysgolion ym mis Medi 2019 pan fydd dyfarniad cyflog arall yn ddyledus. Yn ychwanegol, nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd o ran a fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ategol i gefnogi’r cynnydd ym mhensiynau athrawon, a amcangyfrifir i fod yn risg pellach o dros £2 filiwn.

 

Yn ystod proses y gyllideb, mae’r risg o ran yr effaith ar wasanaethau a safonau wedi’i chodi gyda Gweinidogion. Mae ymgysylltu helaeth wedi’i wneud gydag ysgolion a phartneriaid ar gyfrifoldebau a rennir ac mae’r ddeialog agored hon wedi’i chroesawu.

 

Soniodd y Cyng. Shotton am drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach yr wythnos honno lle amlygwyd effaith y pwysau ariannol hwn ar wasanaethau. Er y croesawir y dyfarniadau cyflog uwch i athrawon a staff ysgol, ni chydnabyddir y pwysau hwn yn llawn gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU. I gynorthwyo ysgolion gyda’r pwysau ariannol canol blwyddyn hyn, argymhellir bod y Cyngor Sir yn codi cyllideb ddirprwyedig ysgolion 2.47%. O ran cynyddu pensiynau athrawon, awgrymodd y Cyng. Shotton y dylai Aelodau ystyried cysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i dderbyn sicrwydd drwy Drysorlys y DU bod cyllid ar ddod.

 

Croesawodd y Cyng. Heesom y diweddariad hwn yn barod ar gyfer y drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Chwefror. Dywedodd pa mor bwysig yw cyllid i gefnogi darpariaethau chweched dosbarth yn y sir. Dywedodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid nad oes gwybodaeth wedi’i derbyn gan Lywodraeth Cymru eto o ran cyllid grant ar gyfer addysg ôl-16 yn 2019/20 a dywedodd y bydd gwasanaeth rhanbarthol GwE yn dyrannu’r cyllid Grant Gwella Addysg. Wrth fynd i gyfarfodydd cenedlaethol a rhanbarthol mae swyddogion yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd derbyn gwybodaeth ariannol yn amserol er mwyn galluogi’r Cyngor ac ysgolion i gynllunio’n effeithiol.

 

Dywedodd David Hÿtch nad yw’r dyfarniad cyflog cenedlaethol sydd wedi’i osod gan Lywodraeth y DU yn helpu i recriwtio a chadw staff ysgol, sy’n broblem ar draws y DU. Roedd yn croesawu’r cynnydd ond mynegodd bryderon ynghylch gallu ysgolion i amsugno’r costau ychwanegol, yn enwedig oherwydd nifer yr ysgolion uwchradd sydd eisoes mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol. Roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 36