Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Cyfarfod: 17/01/2019 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 3)

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru (Ar y Cyd) ar gyfer Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni, sy’n cael ei drwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Eglurodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol, fodd bynnag, nid oedd yr ymgeisydd wedi llenwi’r rhan hon o’r ffurflen gais.  Wedi derbyn cofnodion uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar yr ymgeisydd, gwelwyd euogfarn am guro. Atodwyd manylion yr euogfarn i’r adroddiad Gofynnwyd i’r ymgeisydd ddarparu eglurhad ysgrifenedig o’r euogfarn a hefyd pam y methodd lenwi adran 5 y ffurflen gais. Atodwyd ymateb yr ymgeisydd fel atodiad C i’r adroddiad. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is Bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn cymwys a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn am ei euogfarn flaenorol fel y manylwyd arni ar ddatgeliad cofnodion troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei eglurhad ysgrifenedig oedd yn manylu ar ei euogfarn a rhoddodd wybodaeth gefndir am sut y cyflawnwyd y drosedd. Atebodd y cwestiynau ynghylch pa mor hir roedd wedi byw yn y Deyrnas Unedig, ei amgylchiadau personol a theuluol, a’i gefndir gwaith.

 

Holodd y Cyfreithwyr yr ymgeisydd yn fanwl am ei euogfarn am guro a’i fethiant i ddatgelu hynny ar adran 5 y ffurflen gais. Dywedodd yr ymgeisydd fod arno gywilydd am ei drosedd ond nad oedd yn credu ei fod yn euog ac esboniodd ei fod yn groes i’w gymeriad ac wedi digwydd ar adeg o anghydweld domestig.  Ailadroddodd yr amgylchiadau a oedd wedi arwain at a dywedodd, er gwaetha’r euogfarn, ei fod yn parhau i gael bywyd teuluol sefydlog. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â rhoi manylion ei euogfarn ar y ffurflen ond roedd o’r farn nad troseddwr mohono.

 

Cyn holi ymhellach gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a oedd yn deall yn llawn y cwestiynau oedd yn cael eu gofyn a thrafodion y gwrandawiad ac a oedd angen gwasanaeth cyfieithydd. Atebodd yr ymgeisydd ei fod yn gallu clywed a deall ac nad oedd angen cymorth gan gyfieithydd.

 

Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am adran 7 y ffurflen gais a oedd yn gofyn am eirda a gofynnod pam nad oedd wedi rhoi manylion ei gyflogwr diwethaf fel canolwr. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr hefyd at adran 4 a oedd yn gofyn am fanylion cyflogaeth a hefyd eglurhad am y rheswm dros adael. Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd mewn manylder am ei gyflogaeth flaenorol a’i reswm dros adael. Esboniodd yr ymgeisydd ei fod wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr diwethaf  a rhoddodd fanylion yr amgylchiadau a arweiniodd at ei ddiswyddiad. Yn y fan hon, darparodd yr ymgeisydd wybodaeth ysgrifenedig a oedd yn rhoi manylion ei euogfarn am ymosodiad ar weithiwr arall a oedd wëid digwydd yn ei weithle. Datgelodd yr ymgeisydd hefyd ei fod wedi bod yn y llys yn ddiweddarach wedi derbyn dirwy a dedfryd ohiriedig, ac wedi cael  ...  view the full Cofnodion text for item 3