Mater - cyfarfodydd

Alternative Delivery Model Update – Social Care Learning Disability Day and Work Opportunities Service

Cyfarfod: 28/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 36)

36 Diweddariad ar y Model Darpariaeth Amgen - Diwrnod Anableddau Dysgu Gofal Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar gynnydd a wnaed gyda Model Darpariaeth                   Amgen Diwrnod Anableddau Dysgu Gofal Cymdeithasol a’r                           Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith, gan gynnwys trosglwyddiad y                   swydd gwasanaeth i Hft Ltd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd Model Cyflawni Gwahanol Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu, gan gynnwys darparu’r gwasanaeth ar ôl trosglwyddo i Hft Limited.Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, yn ychwanegol at gynnydd ar bartneriaeth yr Awdurdod gyda Hft, bod yr adroddiad yn cynnwys diweddariad ar adeiladu Canolfan Ddydd newydd yn Queensferry, a fyddai’n helpu i drosglwyddo a moderneiddio’r gwasanaeth i bobl Sir y Fflint.

 

Croesawodd a chyflwynodd y Prif Swyddog Andrew Horner, Cyfarwyddwr Prosiectau Gweithredol Hft Limited, a Jordan Smith, Rheolwr Rhanbarthol Hft Flintshire, gan eu gwahodd i roi cyflwyniad ar Hft Flintshire a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

·         pwy yw Hft a ble rydyn ni

·         trosglwyddo

·         Glanrafon, Hwb Cyfle, Tri-Ffordd, Rowley’s Pantry a Freshfields

·         Castle Connections

·         Tîm Opsiynau Gwaith

·         astudiaethau achos

·         model cefnogaeth

·         pobl rydyn ni’n eu cefnogi – adborth

·         heriau

·         datblygu'r gweithlu

·         hyfforddiant gorfodol

·         cyfnewid staff

·         codi arian

·         Project Search Flintshire

 

Soniodd Mr Horner a Mr Smith am y cynnydd a wnaed ers i’r Awdurdod benodi Hft i ddarparu’r gwasanaeth o 1 Chwefror 2018 ymlaen, gan gyfeirio at y model gwasanaeth a'r datblygiadau o ran gweithlu, cynnydd ar adeiladu canolfan ddydd newydd i oedolion, gweithio mewn partneriaeth, codi arian, cynlluniau busnes at y dyfodol a chwilio am brosiectau. Yn ystod y cyfarfod, soniodd cyn-ddefnyddiwr gwasanaeth sydd bellach yn gweithio i Hft wrth y Pwyllgor am ei phrofiadau personol o’r gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf, wedi’i chefnogi gan ei Hyfforddwr Swydd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Dunbar o blaid y gwaith rhagorol a wnaed yng Nglanrafon a chroesawai’r cyfleuster cymunedol newydd (Hwb Cyfle) a oedd i fod i agor fis Mehefin eleni yn lle’r ganolfan ddydd bresennol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton ei werthfawrogiad am y gweithgareddau codi arian a wnaed gan Hft, a oedd wedi casglu £31,000 ar gyfer gwelliannau i’r gwasanaeth, buddsoddiadau mewn cyfarpar, technoleg a gweithgareddau newydd.  Soniodd hefyd am Ysgol Fusnes Cranfield Trust a oedd wedi darparu ymgynghorydd cynllunio busnes am ddim. Croesawai’r Cynghorydd Shotton y ganolfan gymunedol newydd. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shotton i Mr Horner a Mr Smith ddarparu mwy o wybodaeth am waith y Tîm Hyfforddi Swyddi. Eglurodd Mr Horner bod Hft yn adolygu’r holl leoliadau gwaith presennol a gefnogir gan y tîm Hyfforddi Swyddi.Dywedodd bod yr Hyfforddwyr Swyddi’n ystyried opsiynau gyda chyflogwyr lle'r oedd lleoliadau a oedd wedi bod yn ddi-dâl a bod unigolion yn cyflawni disgrifiadau swyddi a nododd rai o'r llwyddiannau roedd Hft wedi'i gael wrth wneud hyn.  Gwnaeth Mr Horner sylw hefyd ar y gwaith a wnaed gan Hft i recriwtio a chefnogi unigolion mewn rolau gwirfoddol. 

 

Soniodd Mr Horner am y rhaglen Project Search yr oedd Hft wedi’i chyflawni’n llwyddiannus ar draws y DU am flynyddoedd ac eglurodd mai rhaglen interniaeth 12 mis i oedolion ifanc ag anableddau oedd hon.  Roedd y prosiect yn gweithio’n agos gyda'r cyflogwr i ddarparu profiad gwaith i interniaid er mwyn iddynt allu dysgu a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i gael gwaith cyflogedig neu wirfoddol. Dywedodd Mr  ...  view the full Cofnodion text for item 36