Mater - cyfarfodydd

Corporate Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud and Irregularity Response Plan

Cyfarfod: 15/02/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 50)

50 Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygred corfforaethol a Chynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra pdf icon PDF 83 KB

Amlinellu'r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra diwygiedig i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd yr adroddiad yngl?n â’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra fel y’u diwygiwyd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y ddogfen ddiwygiedig yn rhoi gwell eglurder i bobl y tu allan i’r Cyngor, ac y câi contractwyr eu hysbysu hefyd fel rhan o’r drefn gaffael.

 

Soniodd Sally Ellis eto am y materion yr oedd wedi’u codi gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol yn y sesiwn briffio cyn y cyfarfod.  Roedd a wnelo’r rheiny â phwysigrwydd rhoi gorolwg i’r Pwyllgor o faterion twyll, diffinio ‘afreoleidd-dra’ yn fwy pendant yn y Strategaeth, a sicrhau cysondeb wrth ymdrin â materion diogelu.  Mewn ymateb i sylwadau ychwanegol, rhoes y Prif Archwilydd fanylion yngl?n â chyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar y Strategaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson y dylai’r adroddiad nodi pa Aelodau Cabinet oedd yn gyfrifol neu beidio, er gwaethaf y ffaith mai swyddogaeth anweithredol oedd hon.  O ran ymgynghori ag Undebau Llafur, cadarnhawyd fod yr ymatebion wedi’u cynnwys yn y dogfennau.

 

Cytunwyd y dylid dileu ‘lle bo’n berthnasol’ o adran 8.15 o’r Strategaeth, a chywiro’r negyddiad dyblyg yn adran 2.6.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Yn amodol ar y diwygiadau, cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth; a

 

 (b)      Cymeradwyo’r Cynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra.