Mater - cyfarfodydd
Corporate Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud and Irregularity Response Plan
Cyfarfod: 15/02/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 50)
Amlinellu'r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a Chynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra diwygiedig i’r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Corporate Anti-Fraud & Corruption Strategy with tracked changes, eitem 50 PDF 356 KB
- Enc. 2 - Corporate Anti-Fraud & Corruption Strategy without tracked changes, eitem 50 PDF 347 KB
- Enc. 3 - Fraud & Irregularity Response Plan with tracked changes, eitem 50 PDF 558 KB
- Enc. 4 - Fraud & Irregularity Response Plan without tracked changes, eitem 50 PDF 546 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Archwilydd yr adroddiad yngl?n â’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra fel y’u diwygiwyd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y ddogfen ddiwygiedig yn rhoi gwell eglurder i bobl y tu allan i’r Cyngor, ac y câi contractwyr eu hysbysu hefyd fel rhan o’r drefn gaffael.
Soniodd Sally Ellis eto am y materion yr oedd wedi’u codi gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol yn y sesiwn briffio cyn y cyfarfod. Roedd a wnelo’r rheiny â phwysigrwydd rhoi gorolwg i’r Pwyllgor o faterion twyll, diffinio ‘afreoleidd-dra’ yn fwy pendant yn y Strategaeth, a sicrhau cysondeb wrth ymdrin â materion diogelu. Mewn ymateb i sylwadau ychwanegol, rhoes y Prif Archwilydd fanylion yngl?n â chyflwyno’r rhaglen hyfforddiant ar y Strategaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson y dylai’r adroddiad nodi pa Aelodau Cabinet oedd yn gyfrifol neu beidio, er gwaethaf y ffaith mai swyddogaeth anweithredol oedd hon. O ran ymgynghori ag Undebau Llafur, cadarnhawyd fod yr ymatebion wedi’u cynnwys yn y dogfennau.
Cytunwyd y dylid dileu ‘lle bo’n berthnasol’ o adran 8.15 o’r Strategaeth, a chywiro’r negyddiad dyblyg yn adran 2.6.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar y diwygiadau, cymeradwyo’r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth; a
(b) Cymeradwyo’r Cynllun Ymateb i Dwyll ac Afreoleidd-dra.