Mater - cyfarfodydd

Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage

Cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet (eitem 290)

290 Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – Trosolwg a Cham 3 pdf icon PDF 180 KB

Pwrpas:        Adolygu Cam 3, trydydd cam a cham olaf Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 a gwneud argymhellion bod y Cyngor yn gosod Cyllideb gyfreithlon a mantoledig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad ynghylch Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 – y Trydydd Cam a’r Cam Clo. Soniodd am y nifer o weithdai Aelodau a chyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ers cyflwyno’r datganiadau cadernid ar gyfer pob portffolio cyn cymeradwyo’r gyllideb yng Ngham 1 ac yna Cam 2.

 

            Roedd y datganiadau cadernid yn amlygu’r risgiau o ran y gallu i gyflawni a pherfformiad gwasanaethau wrth gwtogi ymhellach ar y gyllideb, ac roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet wedi’u derbyn.  Roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet wedi derbyn hefyd nad oedd unrhyw le i gwtogi mwy ar Gyllid Corfforaethol na Phortffolios Gwasanaethau.

 

            Bu’r Cyngor ar flaen y gad yn yr ymgyrch ledled Cymru i sicrhau gwell Setliad Ariannol i lywodraeth leol, gan bledio’r achos ar y cyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd wedi cynnal ei ymgyrch ei hun yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol dan yr hashnod #CefnogiEinCais.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod ar y Cyngor angen gosod cyllideb gytbwys er mwyn cyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol – roedd y Cyngor i gyd yn gyfrifol ar y cyd am hynny. Pwysleisiodd mor bwysig oedd y cyngor y byddai ef a’r Swyddog Adran 151 yn ei roi i’r Aelodau yn rhinwedd eu swyddogaethau fel Swyddogion Statudol.

 

Cyflwynid adroddiad i’r Cyngor Sir ar 29 Ionawr 2019. Cynhelid cyfarfod arall ar 19 Chwefror a gellid cyflwyno adroddiad bryd hynny hefyd, pe byddai angen, heb fynd heibio’r terfyn amser ar gyfer gosod y gyllideb.  

 

Dywedodd eto nad oedd unrhyw le i leihau’r amcangyfrifon o’r costau o ran Cyllid Corfforaethol a Phortffolios Gwasanaethau yn 2019/20 a gytunwyd gan yr Arweinwyr Grwpiau, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Cabinet a’r Cyngor, a bod yr holl ddewisiadau ar gyfer arbedion o unrhyw faint bellach wedi mynd. Er bod y Setliad i lywodraeth leol a Sir y Fflint yn well na’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau, nid oedd yn ddigonol i fodloni’r gofynion ariannol. Hyd oni fyddai Llywodraeth Cymru’n cyfrannu mwy o arian, yr unig ddewisiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys oedd cynyddu’r incwm o Dreth y Cyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn, ond roedd y rheiny’n mynd yn brin.

 

Y diffyg diweddaraf oedd £3.1 miliwn, ac er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol yn unol â’r gyfraith, byddai’n rhaid codi Treth y Cyngor oddeutu 8.5% a defnyddio rhywfaint o’r cronfeydd wrth gefn; y swm a argymhellwyd oedd £0.189 milwn. Gan gynnwys cynyddu Ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gallai Treth y Cyngor godi 8.9%.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sut cyfrifwyd y diffyg diweddaraf yn y gyllideb, gan roi manylion yngl?n â grantiau oedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2019/20. Cadarnhaodd mai’r unig ddewisiadau ar gyfer talu’r diffyg oedd defnyddio cronfeydd wrth gefn a chodi Treth y Cyngor, hyd oni cheir unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru. Pwysleisiodd mai dim ond ychydig o’r cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, gan argymell swm o £0.189 miliwn, a rhoes fanylion yngl?n â’r lefelau darbodus y dylid eu cadw mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 290