Mater - cyfarfodydd
The Procurement of Transport Arrangements for Parc Adfer
Cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet (eitem 303)
Caffael Trefniadau Cludo ar gyfer Parc Adfer
Pwrpas: Derbyn cymeradwyaeth i gaffael gwasanaeth clwydo nwyddau rhanbarthol ar gyfer cludo deunydd gwastraff i'r cyfleuster Parc Adfer newydd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ynghylch Caffael Trefniadau Cludo ar gyfer Parc Adfer.
Er mwyn medru mynd â gwastraff gweddilliol yr holl awdurdodau partner i Barc Adfer, byddai’n rhaid i’r bartneriaeth gaffael contract(au) cludo. Yn unol â Chytundeb Rhyng-awdurdod y Bartneriaeth, roedd Cyngor Sir y Fflint yn mynd ati ar ran y Bartneriaeth i gaffael gwasanaeth cludo.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y câi llwybrau danfon ac ymadael eu hargymell ar gyfer pob cerbyd.
PENDERFYNWYD:
Rhoi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â phroses gaffael i benodi darparwr rhanbarthol i gludo deunydd gwastraff i’r Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol newydd ar gyfer gogledd Cymru.