Mater - cyfarfodydd

Review of Garden Waste Charges

Cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet (eitem 295)

295 Adolygu Ffioedd Gwastraff Gardd pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Rhoi adborth ar wasanaeth casgliadau gwastraff gardd a’r system ffioedd a gyflwynwyd yn Ebrill 2018.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Adolygu Ffioedd Gwastraff Gardd yn Sir y Fflint, a oedd yn nodi canlyniad yr adolygiad a’r asesiad ariannol a wnaethpwyd o’r cynllun.

 

            Fis Ionawr 2018 cymeradwyodd y Cabinet dâl cofrestru o £30 ar gyfer casglu pob gwastraff o’r ardd, a dechreuodd y gwasanaeth newydd fis Ebrill 2018.

 

            Yn y flwyddyn gyntaf o godi'r tâl gwerthwyd 33,871 o drwyddedau, sy’n golygu bod mwy na hanner yr holl breswylwyr oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn y gorffennol wedi cofrestru i gael casglu o leiaf un bin o dan y drefn newydd. Roedd mwy na’r disgwyl wedi cofrestru, ac felly rhagorwyd ar y targed ariannol a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth a chynhyrchwyd incwm ychwanegol o £166,000 uwchlaw’r targed o £800,000.

 

            Bu’r adolygiad yn bwrw golwg ar y meysydd canlynol, a chyflwynwyd yr holl fanylion yn yr adroddiad:

 

·         Tâl cofrestru 2019;

·         Y potensial i ehangu’r cynllun fel ei fod yn gweithredu dros flwyddyn gyfan;

·         Dulliau talu;

·         Defnyddio technoleg i gofnodi taliadau a chasgliadau; a

·         Potensial i gynnig gostyngiad i breswylwyr oedd yn derbyn budd-daliadau.

 

Rhannodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd fanylion yngl?n â’r trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ar 11 Rhagfyr 2018, a oedd yn cynnwys:

 

·         Darparu bin mwy, ac ail fin yn rhad ac am ddim;

·         Gohirio’r defnydd o dechnoleg er mwyn ymchwilio i’r cyfle i gael biniau mwy;

·         Roedd siom am na chynigiwyd gostyngiad i breswylwyr oedd yn derbyn budd-daliadau; a

·         Hyrwyddo compostio.

 

Cynigiwyd Dewis 6 yn y cyfarfod hwnnw, sef codi tâl o £30 a bod unrhyw fin ychwanegol am ddim, ond trechwyd y cynnig hwnnw mewn pleidlais. Cafwyd pleidlais ar yr argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet, ac fe’u cymeradwywyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr hefyd y câi’r incwm ychwanegol a gynhyrchwyd uwchlaw’r targed ei ddefnyddio drwy’r gwasanaeth, a’i fod yn cymorthdalu pethau fel Canolfannau Ailgylchu Domestig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, dywedodd y Prif Swyddog na fu unrhyw gynnydd mewn tipio anghyfreithlon ers cyflwyno’r tâl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Rhoi cymeradwyaeth i barhau â’r polisi o godi tâl am y Gwasanaeth Gwastraff Gardd ar gyfer 2019 a blynyddoedd dilynol;

 

 (b)      Cymeradwyo’r tâl presennol o £30 ar gyfer y gwasanaeth;

 

 (c)       Y câi’r adolygiad blynyddol o’r tâl Gwastraff Gardd ei gynnwys yn yr adolygiad blynyddol o’r ffioedd a’r taliadau yn y portffolio o 2019 ymlaen; a

 

 (ch)    Y byddai’r gwasanaeth yn ymchwilio i system dechnolegol newydd i fonitro taliadau a hysbysu’r casglwyr o bwy oedd wedi talu, i fod yn barod erbyn 2020, a chymeradwywyd defnyddio £30,000 o’r arian a godwyd ym mlwyddyn ariannol 2018/19 i ariannu’r trefniant newydd.