Mater - cyfarfodydd
Local Full Fibre Network (LFFN)
Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 329)
329 Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol (RFLL) PDF 94 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth a nodi’r cais am gyllid ar gyfer y Rhwydwaith.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Local Full Fibre Network (LFFN), eitem 329 PDF 4 MB
- Enc. 2 for Local Full Fibre Network (LFFN), eitem 329 PDF 57 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin y Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith digidol a wnaed hyd yma gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraeth) fanylion ynghylch datblygu’r Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect LFFN, sy’n cael ei ddatblygu i sicrhau cyllid gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
Yng nghyfarfod y Bwrdd Uchelgais ym mis Mawrth, cymeradwywyd Strategaeth Cysylltedd Digidol ar gyfer y rhanbarth. Cytunwyd hefyd yn y cyfarfod y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn awdurdod arweiniol o ran y cais am gyllid.
Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod y Rhwydwaith Ffeibr Llawn yn canolbwyntio ar uwchraddio cysylltedd sector cyhoeddus drwy osod cysylltiadau ‘ffibr llawn’, sy’n gyflymach ac yn cynnig gwell gwerth am arian, yn lle’r cysylltiadau copr presennol mewn oddeutu 400 o safleoedd ar draws y rhanbarth. Byddai Awdurdodau Lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Meddygfeydd ymhlith y sefydliadau sector cyhoeddus a fyddai’n elwa’n uniongyrchol. Byddai eiddo preswyl a busnesau cyfagos hefyd yn elwa o’r buddsoddiad yn y rhwydwaith ffeibr. Canlyniad y buddsoddiad o £13m fydd cysylltedd ffeibr llawn bron yn llwyr ar draws sector cyhoeddus gogledd Cymru, gan wneud yr ardal yn un o’r ardaloedd gorau o ran cysylltedd yn y DU.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a dywedodd ei fod yn fuddiol drwyddi draw i ogledd Cymru fel rhanbarth a byddai’n helpu ymestyn sectorau cyflogaeth.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod hon yn brif flaenoriaeth yng ngwaith y Fargen Dwf a byddai pob sefydliad partner yn cyflwyno adroddiadau tebyg i’w cymeradwyo mewn cyfarfodydd Cabinet. Diolchodd i Gynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam, oedd wedi arwain y prosiect, am y gwaith roeddent wedi ei wneud hyd yma.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai £33,000 o’r cyllid yn cael ei dalu o elfen wrth gefn y Rhaglen Gyfalaf a byddai’r gost refeniw o £9,500 yn cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn y Gyllideb Refeniw; roedd y costau wedi dod i’r amlwg ar ôl cwblhau proses y gyllideb.
PENDERFYNWYD:
(a) Mabwysiadu Strategaeth Gysylltedd Gogledd Cymru.
(b) Dylid cymeradwyo fod y Cyngor yn sefydlu Cytundeb Rhyng-Awdurdod addas gyda chyrff partner eraill mewn perthynas â’r prosiect Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol; a
(c) Dylid Awdurdodi’r Swyddog A151 a’r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Aelodau Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau a Datblygu Economaidd, ac Arweinydd y Cyngor, i gytuno ar delerau terfynol y Cytundeb Rhyng Awdurdod.