Mater - cyfarfodydd

School Admission Arrangements 2020/21

Cyfarfod: 19/03/2019 - Cabinet (eitem 332)

332 Trefniadau Derbyniadau Ysgol 2020/21 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori statudol ynghylch trefniadau derbyn Medi 2020 ac i argymell eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion yr adroddiad Trefniadau Derbyn i Ysgolion ar gyfer 2020/21 a oedd yn rhoi gwybodaeth ynghylch canlyniad yr ymarferiad ymgynghori statudol ar y Trefniadau Derbyn ar gyfer mis Medi 2020.

 

            Yn unol â’r Cod Derbyn i Ysgolion, roedd gofyn i’r awdurdod lleol gynnal ymarfer ymgynghori statudol ar ei drefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rhaid i’r ymgynghoriad gynnwys y trefniadau derbyn llawn, gan gynnwys y polisi derbyn, y meini prawf gordanysgrifio, yr amserlen ar gyfer derbyn a niferoedd derbyn, a rhoddwyd manylion ar gyfer pob un ohonynt yn yr adroddiad.

 

            Cafwyd sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori gan Ffederasiwn y Penaethiaid Uwchradd ar y broses ar gyfer newid ysgolion yn ystod y flwyddyn ysgol. Roeddent yn pryderu, yn arbennig, am nifer y ceisiadau i drosglwyddo o un ysgol i’r llall a wnaed yn ystod blwyddyn ysgol a’r amhariad y gallai’r rheini eu hachosi i addysg y dysgwr. Yn 2017/18 proseswyd 1228 o drosglwyddiadau a oedd yn nifer tebyg i rai awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Roedd nifer o drosglwyddiadau yn sgil symud i fyw ond nid oedd hynny bob amser yn wir. Er mwyn sicrhau bod rhieni wedi rhoi ystyriaeth ofalus i bob opsiwn cyn gofyn am drosglwyddiad, awgrymwyd y dylid cynnwys y geiriad canlynol, a gytunwyd gyda’r penaethiaid Uwchradd, yn y polisi:

 

             “Nid yw’r Awdurdod Lleol yn annog trosglwyddo plant rhwng ysgolion, a gall newid ysgol yn ystod y tymor amharu’n ddifrifol ar ddilyniant mewn addysg plentyn.  Os yw rhieni o’r farn bod problem yn yr ysgol mor ddifrifol fel bod yn rhaid symud, fe gânt eu hannog i gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y mater gyda’r ysgol yn gyntaf, ac yna i geisio cyngor y Tîm Derbyniadau os oes angen, cyn gwneud cais i drosglwyddo. O ran ceisiadau i drosglwyddo ysgol lle nad yw’r disgybl yn symud i fyw, mae’r Awdurdod Lleol yn cadw’r hawl i drefnu bod y plentyn yn dechrau yn yr ysgol newydd ar ddechrau’r hanner tymor nesaf er mwyn osgoi tarfu ar addysg y plentyn dan sylw a’r plant eraill. Mae gan bob ysgol uwchradd raglenni pontio ganol y flwyddyn i gynorthwyo disgyblion sy’n trosglwyddo yn ystod y tymor. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys ymweliadau estynedig ag ysgolion gan rieni/ gofalwyr a disgyblion.”

 

            Cefnogwyd y geiriad gan Aelodau ar yr amod fod y geiriad "nid yw'r Awdurdod Lleol yn annog” yn cael ei newid i “mae’r Awdurdod Lleol yn annog peidio”.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am ragor o wybodaeth ar nifer y trosglwyddiadau canol blwyddyn a gwblhawyd. Eglurodd yr Uwch Reolwr – Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion fod y ffigwr yn debyg i flynyddoedd blaenorol ac nid oedd modd osgoi rhai trosglwyddiadau. Y nod oedd lleihau’r amhariad ar addysg dysgwyr.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, eglurodd yr Uwch Reolwr fod dewis cyntaf o ysgol 96% o ddisgyblion yn cael ei dderbyn, a oedd yn ganran uwch na rhai awdurdodau lleol eraill.  Esboniwyd y polisi cludiant yn glir i rieni, sef y  ...  view the full Cofnodion text for item 332