Mater - cyfarfodydd
Update on the Integrated Care Fund; its application, governance and impact
Cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 42)
42 Gronfa Gofal Integredig PDF 110 KB
Pwrpas: Diweddaru Craffu ar ddefnydd y Gronfa Gofal Integredig, y ffordd mae ei defnydd yn cael ei reoli ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a’r gwahaniaeth y mae’r nawdd yn ei wneud i breswylwyr Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Guidance for the 2018 ICF Programme, eitem 42 PDF 322 KB
- Appendix 2 - North Wales population needs assessment, eitem 42 PDF 682 KB
- Appendix 3 - Summary of revenue schemes and key performance to date, eitem 42 PDF 231 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar ddefnydd y Gronfa Gofal Integredig; y ffordd y rheolir ei defnydd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’r gwahaniaeth y mae’r cyllid yn ei wneud i breswylwyr Sir y Fflint. Rhoddodd ychydig o wybodaeth gefndir a chyd-destun, a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau wrth ddyrannu'r cyllid, y rhaglen refeniw a’r rhaglen gyfalaf.Yna, gwahoddodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr a’r Arweinydd Partneriaeth i gyflwyno’r adroddiad.
Soniodd y Cadeirydd am effaith y cyllid a’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r Gronfa Gyllid Integredig sy’n arbed arian i’r gwasanaeth iechyd.
Mewn ymateb i ymholiad y Cyng. Hilary McGuill yngl?n â’r gwasanaeth dychwelyd ac atal, eglurodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod hwn yn bartneriaeth rhwng CAMHS, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Gweithredu dros Blant, sy’n darparu gwasanaethau cymorth therapiwtig pan fo risg o leoliad yn methu. Yn ystod y drafodaeth ymatebodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu i gwestiynau a sylwadau pellach gan y Cyng. McGuill yngl?n â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac eglurodd sut mae’r gwasanaeth yn hwyluso’r angen i ariannu addasiadau angenrheidiol i eiddo preswyl preifat ac yn diogelu arian cyhoeddus.
Awgrymodd y Cyng. Andy Dunbobbin y dylid ystyried gwneud cais am gyllid gan Gyfamod y Lluoedd Arfog i gefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi Rhaglen y Gronfa Gofal Integredig; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r fenter i ddefnyddio ffynonellau ariannu tymor byr i ddarparu yn erbyn blaenoriaethau strategol a gweithredol y Cyngor a phartneriaid allweddol.