Mater - cyfarfodydd

Armed Forces Covenant - Annual Report

Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (eitem 282)

282 Cyfamod y Lluoedd Arfog - Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer ei gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef yr ail adroddiad blynyddol i Sir y Fflint. 

 

Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg, yn ogystal â’r rhai sy’n gwasanaethu heddiw.  Roedd y Cyfamod yn gyfrifoldeb cenedlaethol a oedd yn cynnwys y llywodraeth, busnesau, awdurdodau lleol, elusennau a'r cyhoedd, gan annog cymunedau lleol i gefnogi'r lluoedd arfog yn eu hardal a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth.

 

            Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y lluoedd arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid a oedd wedi llofnodi’r Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig.  Pwrpas Cyfamod Sir y Fflint oedd annog cefnogaeth ar gyfer cymuned y lluoedd arfog a oedd wedi gweithio ac/neu a oedd yn byw yn Sir y Fflint a chydnabod a chofio eu haberth.

 

            Byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ar 29 Ionawr.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad a diolchodd i Arweinydd y Cyngor am y cyfle a roddwyd i’r Cynghorydd Dunbobbin i fod yn Gefnogwr Cyfamod y Lluoedd Arfog, a oedd n cael ei gydnabod yn gadarnhaol yn lleol ac yn genedlaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r cynnydd cadarnhaol a wnaed i weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi’r ymrwymiadau ar gyfer gwelliannau eraill; a

 

 (b)      Bod Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.