Mater - cyfarfodydd
Environmental Enforcement
Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (eitem 279)
279 Gorfodi Amgylcheddol PDF 80 KB
Pwrpas: Ceisio am argymhelliad y Cabinet am ddyfodol y dull o ddarparu gwasanaeth ar gyfer gorfodi amgylcheddol a maes parcio.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Orfodi Amgylcheddol a oedd yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Gorffennaf 2018 na ddylid ymestyn y cytundeb dan gontract ar gyfer gorfodi amgylcheddol y tu hwnt i fis Rhagfyr 2018.
Fodd bynnag, ers mis Awst 2018, roedd Kingdom wedi tynnu eu gwasanaethau o Sir y Fflint ac roedd y tîm gweddilliol y Swyddogion Gorfodi mewnol wedi ymgymryd â’r holl weithgareddau gorfodi yn y Sir.
Roedd yr adroddiad yn nodi pedwar dewis posib’ i wneud gwaith gorfodi ar draws y Sir, yn unol â pholisïau gorfodi amgylcheddol cymeradwy’r Cyngor.
Roedd adroddiad wedi cael ei ystyried yn ddiweddar ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle roedd y dewis a ffefrir wedi’i nodi fel Dewis 2 – ‘darpariaeth orfodi fewnol uwch’ – fodd bynnag, roedd y Pwyllgor wedi argymell y dylid oedi trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos er mwyn caniatáu i'r trefniant presennol sefydlogi ar ôl i Kingdom adael. Roedd trafodaethau anffurfiol wedi’u cynnal gydag awdurdodau cyfagos a oedd yn canolbwyntio ar rannu cyfleusterau cefn swyddfa a Swyddogion Gorfodi’n patrolio mewn ardaloedd dynodedig.
Awgrymodd y Cynghorydd Thomas y dylid newid y ‘goddef dim’ y cyfeirir ato yn Newid 2 i ‘ollwng sbwriel yn fwriadol’ ac y dylid rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi i benderfynu a oedd sbwriel wedi'i ollwng yn fwriadol. Os nad oedd bwriad, ni fyddai dirwy'n cael ei rhoi.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod y ddwy swydd wag ar gyfer Swyddogion Gorfodi wedi’u llenwi, sy’n creu tîm o saith ac un goruchwylydd. Roedd disgwyl i ran o’r costau ar gyfer unrhyw swyddi ychwanegol gael eu talu drwy’r refeniw ychwanegol a fyddai’n dod o gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig.
Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryder yngl?n â newid y geiriad o ‘oddef dim’ i ‘ollwng sbwriel yn fwriadol’, gan sôn am enghreifftiau lle roedd ffurfiau eraill ar oddef dim yn berthnasol, fel parcio ar linellau y tu allan i ysgolion a baw c?n. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod peidio â rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi’n eu gwarchod gan na ellid herio yn y fan a’r lle. Awgrymodd y Cynghorydd Shotton y dylid trafod mwy ar y polisi a dod ag adroddiad yn ôl ger bron y Cabinet yn y dyfodol. Cytunwyd ar hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell nad oedd dull llai llym yn gweithio ac nad oedd y strydoedd heddiw mor lân ag yr oeddent yn y gorffennol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod elfen 'goddef dim' y polisi'n dal ar waith ac y byddai Swyddogion yn gweithredu ar unrhyw enghreifftiau o barcio y tu allan i ysgolion ac o faw c?n.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eiriad ar gyfer trydydd argymhelliad, yn seiliedig ar y drafodaeth a gafwyd, sef “Bod Polisi Gorfodi'n cael ei baratoi i'r Cabinet ei gymeradwyo a bod y Polisi'n ystyried posibiliadau a goblygiadau rhoi disgresiwn i Swyddogion Gorfodi benderfynu pryd y dylid ac a ddylid rhoi Rhybudd Cosb Benodedig”. Cefnogwyd hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Dewis 2 (darpariaeth orfodi fewnol uwch) ar ... view the full Cofnodion text for item 279