Mater - cyfarfodydd
Discretionary Transport Policy Review: Post 16 College & Schools Transport and Benefits Entitlement
Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (eitem 278)
Pwrpas: Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymgynghori ar feysydd polisi cludiant i'r ysgol yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth ôl-16 a hawl i fudd-daliadau.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Current Home to School Transport Policy, eitem 278 PDF 77 KB
- Appendix 2 - Policy Change Timeline, eitem 278 PDF 46 KB
- Appendix 3 - Welsh Local Authorities' Post 16 Policies, eitem 278 PDF 45 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad yr Adolygiad Polisi Cludiant yn ôl Disgresiwn: Cludiant i’r Ysgol a’r Coleg Ôl-16 a Hawl i Fudd-daliadau a oedd yn amlinellu’r ddau faes disgresiwn ac ystod lawn o ddewisiadau i'w hystyried i sicrhau proses ymgynghori agored a thryloyw.
Pwysleisiodd nad oedd angen unrhyw benderfyniad heddiw ac roedd ystod o ddewisiadau’n cael eu cynnig er mwyn cychwyn proses ymgynghori ffurfiol. Rhoddodd sicrwydd na phenderfynwyd ar unrhyw un o'r dewisiadau ymlaen llaw.
Byddai ymgynghoriad â’r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys y rhai hynny y bydd y newid arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y byddai’r holl fudd-ddeiliaid yn cael eu hannog i ymateb ac roedd partneriaid allweddol wedi cael gwybod bod ymgynghoriad yn cael ei argymell i’r Cabinet. Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig i fudd-ddeiliaid gymryd rhan adeiladol yn yr ymarfer ymgynghori.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd yr Awdurdod mewn perygl o her drwy adolygiad barnwrol gan nad oedd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ystod o ddewisiadau ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol yng ngwanwyn 2019 ar feysydd y polisi cludiant i'r ysgol yn ôl disgresiwn ar gyfer darpariaeth ôl-16 a hawl i fudd-daliadau.