Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Progress Report 2018/19
Cyfarfod: 27/03/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 64)
64 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol 2018/19 PDF 87 KB
Cyflwyno Diweddariad i'r Pwyllgor am gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r cynnydd yn yr adain Archwilio Mewnol, gan gynnwys newidiadau yn y cynllun archwilio, olrhain camau gweithredu ac ymchwiliadau.
Nid oedd unrhyw adroddiad sicrwydd cyfyngedig (coch) wedi’i gyflwyno ers y cyfarfod diwethaf. Yn dilyn cais yng nghyfarfod briffio’r Cadeirydd, byddai’r adolygiadau gyda sicrwydd Coch a Melyn / Coch yn cael eu nodi ar y crynodeb cyffredinol o farn (Atodiad C) mewn adolygiadau yn y dyfodol. Roedd y pryderon yngl?n â’r ymatebion gohiriedig i olrhain camau gweithredu wedi’u codi gyda Phrif Swyddogion, ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y ffigyrau; byddai hyn yn parhau i gael ei fonitro.
O ran adnoddau, hysbyswyd y Pwyllgor am ymddeoliad Prif Archwilydd o'r Adain Archwilio Mewnol a oedd yn agosáu.
Siaradodd y Prif Weithredwr am werth y gwaith cynghorol a wnaed gan y tîm yn ychwanegol i’r gwaith craidd, er enghraifft, darparu gwiriad annibynnol ar gywirdeb datganiadau dull a rhagdybiaethau a oedd o gymorth i ddarparu sicrwydd ychwanegol ar faterion cymhleth.
Diolchodd Sally Ellis i’r swyddog am nodi pwysigrwydd Prif Swyddogion yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am olrhain camau gweithredu. Cyfeiriodd at yr heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio uwch archwilwyr a gofynnodd am y capasiti o fewn y tîm. Darparodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol eglurhad ar y broses recriwtio hyd yma a’r opsiynau sydd ar gael. Caniatawyd ar gyfer y swydd wag yn y Cynllun Archwilio hyd at fis Gorffennaf a byddai’r sefyllfa yn cael ei monitro wedi hynny a byddai unrhyw bryder yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod heriau o ran recriwtio ar draws y sector proffesiynol yn gyffredinol, yn golygu bod cynllunio ar gyfer olyniaeth yn risg gynyddol.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Johnson, dywedodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol fod gweinyddu pensiynau yn rhan o waith archwilio a oedd yn darparu sicrwydd pellach i Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd. Siaradodd y Prif Weithredwr am yr adnoddau cynyddol o fewn y tîm Pensiynau i ymateb i newidiadau cymhleth a’r gofynion statudol newydd.
O ran caffael, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y mesurau a gyflwynwyd ar y gofrestr gontract i ddarparu rheolyddion a chydymffurfiad, a'r archwiliad dilynol ar reoli contractau i sicrhau bod y system yn cael ei defnyddio’n effeithiol.
Mynegodd y Cynghorydd Dolphin bryderon am rai o'r rhesymau a roddwyd dros gamau gweithredu gohiriedig ac fe dynnodd sylw at bwysigrwydd gosod terfynau amser realistig, er enghraifft gyda Gorfodi Cynllunio, lle’r oedd o’r farn bod angen adnoddau ychwanegol i gyflawni’r llwyth gwaith. Wrth gydnabod y rhesymau amrywiol dros ohirio camau gweithredu, dywedodd y Prif Weithredwr fod y rhai a oedd yn gysylltiedig â Gorfodi Cynllunio ar y gweill ac roedd arnynt angen datrysiad hirdymor tra bo Dyffryn Maes Glas yn ymwneud â mater y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.