Mater - cyfarfodydd

Communities for Work

Cyfarfod: 19/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 44)

44 Cymunedau am Waith pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i Aelodau ar ddarpariaeth rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn Sir Y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i ddarparu gwybodaeth ar y gwasanaeth Menter ac Adfywio ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau yngl?n â chyflawni rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn Sir y Fflint.

 

Mewn ymateb i gais cynharach, cylchredwyd nodyn briffio gan y Rheolwr Gwasanaeth – Menter ac Adfywio, a rhoddodd drosolwg o’r swyddogaethau a'r gweithgareddau cyfredol o fewn pob maes gwasanaeth yn dilyn ailstrwythuro diweddar. Dangosodd diagram o’r strwythur newydd fod y mwyafrif o’r timau yn cael eu hariannu'n allanol. Nodwyd nifer o ddeilliannau cadarnhaol fel y gefnogaeth a roddwyd gan y tîm Menter Gymdeithasol i fusnes cymdeithasol yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint yn ddiweddar yn ogystal â llwyddiant y tîm Economi Rhanbarthol yn sicrhau £9m o gyllid ar gyfer cysylltedd digidol. Byddai adroddiad ar waith gan y swyddogaeth Datblygu Rhaglen ar ddull i ddarparu gwerth cymdeithasol drwy weithgaredd caffael yn cael ei gynnwys yn y rhaglen ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ym Mawrth.

 

Wrth groesawu’r wybodaeth cododd y Cynghorydd Dolphin bryderon am yr amser y mae’n ei gymryd i lenwi'r swydd wag i gefnogi adfywio canol y dref. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod adnoddau wedi lleihau dros amser yn ogystal â chefnogaeth cyllid allanol. Roedd anghenion canol trefi yn newid mewn ymateb i heriau economaidd yn genedlaethol, a byddai angen i swyddogion ystyried dull newydd o weithio mewn ffordd strategol i dargedu adnoddau’n effeithiol.  Byddai adroddiad llawn ar ganol trefi yn cael ei dderbyn ym Mawrth/Ebrill.

 

Rhannwyd y pryderon hyn gan y Cynghorydd Hutchinson a ddywedodd fod yr effaith yn amlwg yng nghanol yr holl drefi, a siopau llai oedd yn wynebu'r risg mwyaf.

 

Tra’n rhoi sicrwydd y byddai adnoddau cyfyngedig y Cyngor yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) mai'r prif her i'r strydoedd mawr oedd y newid sylweddol yn y farchnad fanwerthu ar draws y DU ac mai ychydig o ddylanwad oedd gan yr Awdurdod Lleol dros hynny.

 

Rhannwyd y farn hon gan y Cynghorydd Butler a dynnodd sylw at y ffaith fod y cynnig ymhob canol tref yn wahanol. Dywedodd fod gan bawb ddyletswydd i gefnogi eu siopau lleol a bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei bwerau i gynyddu nifer yr ymwelwyr fel annog landlordiaid i sicrhau fod llety gwag ar gael uwchben siopau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Palmer cyn penodi Rheolwr Canol Tref / Swyddog Adfywio y dylid cytuno ar y cylch gorchwyl cywir i sicrhau nad ydynt yn cael eu pardduo am beidio â gwneud y gwaith o fewn yr hinsawdd bresennol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at effaith siopa ar y we a gofynnodd am ryddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cyllid hwn yn cael ei roi yn awtomatig i fusnesau cymwys. Ar dwristiaeth dywedodd fod rhaglen waith ar y gweill i wella isadeiledd ymwelwyr yn yr ardaloedd arfordirol.

 

Roedd aelodau eraill yn cydnabod fod adfywio canol tref yn fater eang a oedd hefyd wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 44