Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual report 2017/18
Cyfarfod: 29/11/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 19)
19 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2017/18 PDF 72 KB
Pwpras: Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Atgoffodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Pwyllgor bod Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu'n cael ei gyflwyno'n flynyddol. Eleni roedd mwy o Flaenoriaethau Cynllun y Cyngor wedi’u nodi yn sylwadau’r Cadeirydd.
Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers bod y teitl ar dudalen 65 "sut mae galw i mewn yn gweithio" yn cael ei newid i'r "broses o alw i mewn". Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrym hwn.
Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’i dîm am yr adroddiad ond cododd bryder bod cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu cynnal yn y boreau a'r Cyngor Llawn yn y prynhawn gan ei fod yn teimlo bod angen mwy o fwlch rhwng cyfarfodydd y Cabinet a'r Cyngor Llawn er mwyn gallu hwyluso galw i mewn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried ac yn cyflwyno sylwadau ar ddrafft Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2017/18: bydd y sylwadau’n cael eu defnyddio i ddarparu rhagair i'r Adroddiad Blynyddol; ac
(b) Os yw’r pwyllgor yn cymeradwyo’r adroddiad ei fod yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn y cyfarfod nesaf.