Mater - cyfarfodydd
Governance Update
Cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 33)
33 Diweddariad Llywodraethu PDF 155 KB
Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Governance Update, eitem 33 PDF 102 KB
- Enc. 2 for Governance Update, eitem 33 PDF 43 KB
- Enc. 3 for Governance Update, eitem 33 PDF 126 KB
- Enc. 4 for Governance Update, eitem 33 PDF 220 KB
- Enc. 5 for Governance Update, eitem 33 PDF 56 KB
- Enc. 6 for Governance Update, eitem 33 PDF 50 KB
- Enc. 7 for Governance Update, eitem 33 PDF 74 KB
- Enc. 8 for Governance Update, eitem 33 PDF 53 KB
- Enc. 9 for Governance Update, eitem 33 PDF 105 KB
- Enc. 10 for Governance Update, eitem 33 PDF 283 KB
- Enc. 11 for Governance Update, eitem 33 PDF 557 KB
- Enc. 12 for Governance Update, eitem 33 PDF 281 KB
- Enc. 13 for Governance Update, eitem 33 PDF 2 MB
- Enc. 14 for Governance Update, eitem 33 PDF 549 KB
Cofnodion:
Gadawodd Mr Everett yr ystafell pan drafodwyd yr eitem hon.
Dywedodd Mr Latham na lwydddd y Gronfa i benodi tri aelod newydd yn y Tîm Cyllid.Wedi rhoi sylw i’r swydd Swyddog Buddsoddiadau a phrofi’r farchnad, dywedodd Mr Latham y câi’r swydd ei hail-hysbysebu fel Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, gan nad oedd y cyflog yn ddigon i ddenu rhywun â’r cymwysterau priodol.Cafwyd yr un drafferth â’r swydd Cyfrifydd, ond yn yr achos hwnnw penderfynwyd ail-hysbysebu’r swydd ar raddfa uwch.Câi’r swydd Swyddog Llywodraethu a Chymorth ei hail-hysbysebu ar yr un raddfa ag o’r blaen.
O ran y Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, mynegodd Mr Hibbert bryder yngl?n â phenodi a hyfforddi rhywun oedd newydd raddio, a fyddai wedyn yn medru gadael yr awdurdod gweinyddu ar ôl dwy neu dair blynedd i gael swydd yn rhywle arall am well cyflog. Cytunodd Mr Latham fod yno berygl o hynny, ac y gallai mwy o uwch-swyddi ddod ar gael gyda’r Gronfa yn y dyfodol, pe byddai’r swydd Raddedig yn llwyddo.Dywedodd y Cadeirydd fod yr un peth yn digwydd gydag awdurdodau eraill.Credai Mr Latham y gallai anghenion Cronfa Clwyd fod yn wahanol oherwydd ei strwythur, ond bod yr heriau’r un fath gyda chronfeydd eraill.
Holodd Mr Hibbert a oedd cyfleoedd i rannu’r swydd â chronfa arall, ond cadarnhaodd Mr Latham na fyddai hynny’n bosib oherwydd nifer o elfennau unigryw’r swydd benodol hon. Amlygodd y Cadeirydd y perygl o ran colli gwybodaeth ac arbenigedd y swyddogion presennol.
Yna soniodd Mr Latham fod Marsh and McLennan yn y broses o brynu JLT, a bod y cwmni hefyd yn berchen ar Mercer. Roedd hynny’n golygu, pe cwblheid y contract presennol â JLT yna câi hwnnw ei newyddu er mwyn cydnabod newid y cwmni.
Aeth Mr Latham ymlaen i’r rhan nesaf a oedd yn ymwneud â’r Bwrdd Pensiynau. Cynhaliwyd cyfarfod fis Hydref a rhoddwyd braslun o’r prif bynciau trafod yn yr adroddiad, gan y sylw a roddwyd i ddull y Gronfa o reoli perygl seiberdroseddu. Aeth Mr Latham a Mr Pumford i gyfarfod Bwrdd Lleol Cronfa Bensiynau Swydd Gaer ac roedd y Byrddau’n cydweithio i weld a allent ddysgu rhywbeth gan ei gilydd.Holodd y Cadeirydd a oedd y gwaith yn addawol.Cadarnhaodd Mr Pumford y bu’n ymarfer da iawn a thra buddiol.
Rhannodd Mr Latham y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Soniodd yn benodol am y prosiect ymwahanu oedd yn mynd rhagddo, a’r broblem y gallai gwrthdaro buddiannau godi rhwng rheoli Cronfa Bensiynau’r Cynllun a swyddogaethau ac amcanion y rhiant-awdurdod lleol.
Dywedodd Mr Hibbert y bu’n bresennol mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Wasanaeth Pensiynau Unsain, lle canwyd clodydd Cronfa Bensiynau Clwyd am ei pholisi buddsoddi cyfrifol.
Aeth Mr Latham ymlaen i sôn fod dolen gyswllt ar dudalen 40 i weld adroddiadau blynyddol y Bwrdd Pensiynau Lleol a’r Cynghorydd Annibynnol, a gwahoddodd aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau ynghylch hynny.
Cyfeiriodd Mr Latham hefyd at eitem 1.06 ar y rhaglen, gan sôn y cafwyd ymateb da iawn i’r Cyd-gyfarfod Ymgynghorol ... view the full Cofnodion text for item 33