Mater - cyfarfodydd

Governance Update

Cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 33)

33 Diweddariad Llywodraethu pdf icon PDF 155 KB

Darparu diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion perthnasol i lywodraethu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Gadawodd Mr Everett yr ystafell pan drafodwyd yr eitem hon.

 

Dywedodd Mr Latham na lwydddd y Gronfa i benodi tri aelod newydd yn y Tîm Cyllid.Wedi rhoi sylw i’r swydd Swyddog Buddsoddiadau a phrofi’r farchnad, dywedodd Mr Latham y câi’r swydd ei hail-hysbysebu fel Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, gan nad oedd y cyflog yn ddigon i ddenu rhywun â’r cymwysterau priodol.Cafwyd yr un drafferth â’r swydd Cyfrifydd, ond yn yr achos hwnnw penderfynwyd ail-hysbysebu’r swydd ar raddfa uwch.Câi’r swydd Swyddog Llywodraethu a Chymorth ei hail-hysbysebu ar yr un raddfa ag o’r blaen.

                      O ran y Swyddog Buddsoddiadau Graddedig, mynegodd Mr Hibbert bryder yngl?n â phenodi a hyfforddi rhywun oedd newydd raddio, a fyddai wedyn yn medru gadael yr awdurdod gweinyddu ar ôl dwy neu dair blynedd i gael swydd yn rhywle arall am well cyflog.  Cytunodd Mr Latham fod yno berygl o hynny, ac y gallai mwy o uwch-swyddi ddod ar gael gyda’r Gronfa yn y dyfodol, pe byddai’r swydd Raddedig yn llwyddo.Dywedodd y Cadeirydd fod yr un peth yn digwydd gydag awdurdodau eraill.Credai Mr Latham y gallai anghenion Cronfa Clwyd fod yn wahanol oherwydd ei strwythur, ond bod yr heriau’r un fath gyda chronfeydd eraill. 

                      Holodd Mr Hibbert a oedd cyfleoedd i rannu’r swydd â chronfa arall, ond cadarnhaodd Mr Latham na fyddai hynny’n bosib oherwydd nifer o elfennau unigryw’r swydd benodol hon.  Amlygodd y Cadeirydd y perygl o ran colli gwybodaeth ac arbenigedd y swyddogion presennol.

                      Yna soniodd Mr Latham fod Marsh and McLennan yn y broses o brynu JLT, a bod y cwmni hefyd yn berchen ar Mercer.  Roedd hynny’n golygu, pe cwblheid y contract presennol â JLT yna câi hwnnw ei newyddu er mwyn cydnabod newid y cwmni.

                      Aeth Mr Latham ymlaen i’r rhan nesaf a oedd yn ymwneud â’r Bwrdd Pensiynau. Cynhaliwyd cyfarfod fis Hydref a rhoddwyd braslun o’r prif bynciau trafod yn yr adroddiad, gan y sylw a roddwyd i ddull y Gronfa o reoli perygl seiberdroseddu. Aeth Mr Latham a Mr Pumford i gyfarfod Bwrdd Lleol Cronfa Bensiynau Swydd Gaer ac roedd y Byrddau’n cydweithio i weld a allent ddysgu rhywbeth gan ei gilydd.Holodd y Cadeirydd a oedd y gwaith yn addawol.Cadarnhaodd Mr Pumford y bu’n ymarfer da iawn a thra buddiol.

                      Rhannodd Mr Latham y wybodaeth ddiweddaraf ynglyn â Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.  Soniodd yn benodol am y prosiect ymwahanu oedd yn mynd rhagddo, a’r broblem y gallai gwrthdaro buddiannau godi rhwng rheoli Cronfa Bensiynau’r Cynllun a swyddogaethau ac amcanion y rhiant-awdurdod lleol.                       

                      Dywedodd Mr Hibbert y bu’n bresennol mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Wasanaeth Pensiynau Unsain, lle canwyd clodydd Cronfa Bensiynau Clwyd am ei pholisi buddsoddi cyfrifol.

                      Aeth Mr Latham ymlaen i sôn fod dolen gyswllt ar dudalen 40 i weld adroddiadau blynyddol y Bwrdd Pensiynau Lleol a’r Cynghorydd Annibynnol, a gwahoddodd aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau ynghylch hynny.

Cyfeiriodd Mr Latham hefyd at eitem 1.06 ar y rhaglen, gan sôn y cafwyd ymateb da iawn i’r Cyd-gyfarfod Ymgynghorol  ...  view the full Cofnodion text for item 33