Mater - cyfarfodydd
Pooling Investments in Wales
Cyfarfod: 28/11/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 32)
32 Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru PDF 91 KB
Diweddaru Aelodau’r Pwyllgor ar weithredu Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Aeth Mr Latham drwy’r eitem hon ar y rhaglen, gan nodi’r materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu y bu’r Cadeirydd ac ef yn bresennol ynddo ar 25 Medi 2018. Dywedodd fod y rhan helaeth o’r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar yn ymwneud â phenodi rheolwr trawsnewid ar gyfer asedau ecwiti hollgynhwysol, a byddai hynny’n digwydd ar 14 Ionawr 2019.
Dywedodd Mr Latham y byddai 4% o asedau’r Gronfa, sef swm o tua £80 miliwn, yn symud o’r mandad ecwiti hollgynhwysol cyfredol gydag Investec i Gynllun Contractiol Awdurdodedig gyda Phartneriaeth Pensiynau Cymru.Roedd gwaith hefyd wedi’i wneud ar fandadau yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop, ac er na fyddai’r Gronfa’n buddsoddi yn y rheiny roedd pethau’n mynd yn dda, ac roedd yn rhagweld y byddai’r asedau’n trosglwyddo fis Mawrth 2019.
Y strategaeth incwm sefydlog oedd yn mynd â’r sylw mwyaf, ac roedd Russell Investments, ar ran y Gweithredwr, wedi bod yn ymchwilio i wahanol gynigion er mwyn bodloni gofynion ar awdurdodau gweinyddu.
Cyfeiriodd Mr Latham at bwynt Mr Hibbert yn gynharach, gan ddweud bod y mandad ecwiti hollgynhwysol yn sicr yn sefyllfa lle byddai’r Gronfa ar ei hennill ymhob ffordd. Serch hynny, roedd hi’n bosib na fyddai’r ffioedd yr oedd y Gronfa’n eu talu ar gyfer rhai mandadau yn gostwng bob amser wrth gronni asedau, gan fod ffioedd llawer ohonynt eisoes yn gystadleuol iawn a’i bod yn annhebygol y byddai’r un cyfraddau ar gael i’r Bartneriaeth.
O ran buddsoddiadau’r Bartneriaeth, credai Mr Latham fod popeth yn dal i fynd yn dda, o’i safbwynt ef.Ychwanegodd Mr Latham y byddai Mrs Fielder yn mynd i gyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 30 Tachwedd ac y byddai’n rhoi sicrwydd fod nodau’r Gronfa wedi’u diogelu o ran y portffolio incwm sefydlog.
O ran gwaith llywodraethu’r Bartneriaeth, roedd yr Awdurdod Lletyol wedi cynnal cyfweliadau ar gyfer y swydd wag.
Gan gyfeirio at raglen cyfarfod y Gweithgor Swyddogion ar 30 Tachwedd, dywedodd Mr Latham fod benthyca cyfranddaliadau’n rhywbeth i’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ei ystyried.
Holodd Mr Hibbert a oedd bwriad i gyflawni gofynion Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun o ran cynrychiolaeth y cynllun ar y Cyd-bwyllgor.Gofynnodd am godi’r mater yng nghyfarfod y Gweithgor Swyddogion y dydd Gwener canlynol, ac fe gadarnhaodd Mrs Fielder y byddai’n gwneud hynny.
Holodd y Cynghorydd Jones yngl?n â thrafodaethau’r Bwrdd Pensiynau yngl?n â llywodraethu’r gronfa a nodwyd ar dudalen 59, a mynegodd yntau bryder yngl?n â’r diffyg cynllunio busnes.Cadarnhaodd Mrs McWilliam fod Byrddau Pensiynau Lleol ledled Cymru’n ystyried ysgrifennu llythyr i’r gronfa gyfun yngl?n â’r cynllun busnes a materion llywodraethu eraill. Dywedodd Mrs McWilliam ei bod yn trafod y mater gyda chadeiryddion y Byrddau eraill.
Ychwanegodd Mr Latham y byddai angen i’r gronfa gyfun sefydlu Polisi Buddsoddi Cyfrifol.Roedd y Llywodraeth yn dweud mai’r awdurdod gweinyddu lleol oedd yn gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, gallai fod yn anodd cyflawni pob un o amcanion y Gronfa o ran buddsoddi cyfrifol yng nghyd-destun cronfa gyfun. Byddai hyn yn rhywbeth i’w ystyried wedi i’r Bartneriaeth lunio ... view the full Cofnodion text for item 32