Mater - cyfarfodydd
North Wales Supported Living and Outreach Support Procurement
Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 268)
268 Caffael Cefnogaeth Estyn Allan a Byw â Chymorth Gogledd Cymru PDF 89 KB
Pwrpas: Mae chwe Awdurdod Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio ar ail gam y Tendr Gofal Cartref Rhanbarthol. Cytunwyd yn rhanbarthol y dylai Cam 2 ganolbwyntio ar gaffael gwasanaethau byw â chymorth oherwydd oedi mewn ail-gomisiynu’r gwasanaethau hyn yn dilyn her gyfreithiol ddiweddar gan Mencap. Mae’r adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac yn gofyn am gymeradwyaeth i dendro ar ran y rhanbarth ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Caffael Cefnogaeth Estyn Allan a Byw â Chymorth Gogledd Cymru, a oedd yn rhoi manylion ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar gam 2 o gaffael gwasanaethau byw â chymorth. Roedd yn gofyn am gymeradwyaeth i dendro ar ran y rhanbarth ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cynnig i Sir y Fflint dendro ar gyfer Cytundeb Byw â Chymorth ac Estyn Allan Rhanbarthol.