Mater - cyfarfodydd
Mid-Year Council Plan 2018/19 Monitoring Report
Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 261)
261 Mid-Year Council Plan 2018/19 Monitoring Report PDF 107 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Monitro Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19 a oedd yn adroddiad yn seiliedig ar eithriad, a oedd yn canolbwyntio ar danberfformio. Byddai adroddiad perfformiad canol blwyddyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Rhagfyr.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar geisiadau a wnaed mewn cyfarfod blaenorol am ddarlun o’r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrediad o wybodaeth perfformiad a oedd ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu fanteisio arnynt ar gyfer adrodd ar berfformiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r canlynol:
· Lefelau cyffredinol cynnydd a hyder wrth gyflawni gweithgareddau yng Nghynllun y Cyngor;
· Perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor; a’r
· Lefelau risg cyfredol o fewn Cynllun y Cyngor.
(b) Bod adroddiad canol blwyddyn manwl a llawn yn cael ei gyflwyno yn Rhagfyr; a
(c) Chael adroddiad pellach gyda darlun o’r cylch cynllunio ar gyfer cynllunio ariannol, busnes a pherfformiad, a gwybodaeth am yr amrediad o wybodaeth perfformiad a oedd ar gael i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu fanteisio arnynt ar gyfer adrodd ar berfformiad.