Mater - cyfarfodydd

Greenfield Valley Heritage park

Cyfarfod: 09/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 58)

58 Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas: I gael adroddiad cynnydd 12 mis

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a wneir i gyflawni’r argymhellion sy’n codi yn yr archwiliad ar lywodraethu, cyllid a threfniadau gweithredu yn Nyffryn Maes Glas a’r sefyllfa weithredol bresennol.    Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd yn dilyn yr archwiliad bod yr holl gamau wedi eu cwblhau heblaw am arwyddo’r Cytundeb Rheoli. Roedd pawb â diddordeb wedi rhoi sylwadau ar fersiynau drafft o’r Cytundeb ac roedd yr Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i arwyddo’r Cytundeb yn ei gyfarfod Bwrdd ar 7 Mai 2019.  Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa weithredol yn Nyffryn Maes Glas. 

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol adroddiad ar yr uchafbwyntiau gweithredol am y chwe mis diwethaf, fel y manylwyd yn yr adroddiad.   Cyfeiriodd at nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus yn ddiweddar a gweithgareddau a gynhaliwyd a’r gwaith rheoli, datblygu a chynnal coetir a wnaed.     Hefyd soniodd am y fenter i adolygu ffioedd mynediad i annog pobl i brynu tocynnau blynyddol drwy gydol y flwyddyn a dywedodd am Gynhadledd Dysgu Awyr Agored i weithwyr addysg proffesiynol a gynhelir yn y Dyffryn ar 4 Ebrill.   

 

Dywedodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol bod gwasanaeth Strydwedd y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau bron i £700k drwy Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i’r Dyffryn fyddai’n gwella cysylltiadau a chyfathrebu.    Eglurodd mai'r cam cyntaf fyddai ailwynebu’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd i faes parcio ffordd yr arfordir.    Byddai ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno fyddai’n cynnwys cynigion i wella’r cysylltiadau o’r Dyffryn i Ysgol Treffynnon ac o’r Dyffryn i Doc Maes Glas. 

 

Wrth gwblhau ei ddiweddariad dywedodd y Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol bod y Dyffryn yn dibynnu ar wirfoddolwyr rheolaidd oedd yn cynorthwyo i reoli’r safle ac eglurodd bod Dyffryn Maes Glas wedi cofrestru i ddosbarthu credydau amser i wirfoddolwyr.    Roedd y cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o brosiect penodol yn Sir y Fflint a Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.    Roedd y fenter yn galluogi i wirfoddolwyr dderbyn credydau papur am eu hamser y gellir ei wario mewn cyfleusterau a busnesau a gofrestrwyd ar draws y DU.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno cynnal cyfarfod yn y dyfodol yn Nyffryn Maes Glas a manteisio ar y cyfle i gael taith o amgylch y Dyffryn a’r cyfleusterau a ddarparwyd yr un pryd. 

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Dolphin y Prif Swyddog a’r Rheolwr Mynediad ac Amgylchedd Naturiol a’i dîm am eu gwaith ardderchog a’r cynnydd a wnaed o ran yr argymhellion archwilio yn ddiweddar.     Dywedodd am gyllideb flynyddol y Cyngor i reoli’r safle a oedd oddeutu £300k a dywedodd fod hyn yn werth am arian, fodd bynnag mynegodd ei siom nad oedd y Cytundeb Rheoli wedi’i arwyddo gan yr Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas eto a dywedodd fod hyn yn annerbyniol.    Hefyd llongyfarchodd y Cynghorydd Dolphin swyddogion ar lwyddiant sicrhau'r grant £700k a sicrhawd drwy'r cynllun Teithio Llesol  ...  view the full Cofnodion text for item 58