Mater - cyfarfodydd

Car Parking Charges Update

Cyfarfod: 11/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 37)

37 Diweddariad 6 Mis Taliadau Parcio Ceir pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I gael diweddariad yn dilyn yr adolygiadau o daliadau parcio ceir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) Chris Taylor a Ruth Cartwright oedd wedi bod yn gweithio ar y rhaglenni ar gyfer parcio ceir.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog bod y Strategaeth wedi ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Mawrth 2017, gyda Strategaeth a Ffioedd newydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mai 2018, ac mai adolygiad chwe mis ar ôl ei gyflwyno oedd yr adroddiad hwn.

 

            Soniodd wrth Aelodau am y ddau gyfyngiad yn 1.09 a’r newidiadau o fewn yr adroddiad yn 1.10. Rhestrwyd y ceisiadau am newidiadau gan Gynghorau Tref a Chymuned yn 1.10 ac ym mhwynt 1.11 oedd yr awgrymiadau nad oedd modd eu cyflwyno.  

 

Dangoswyd cais Cyngor Tref Bwcle am gyfnod estynedig o barcio am ddim pe byddai cyngor y dref yn darparu’r costau yn 1.11 (pwynt 9). Yn anffodus doedd hwn ddim yn cyrraedd y cyfyngiadau ond cytunwyd dod a hyn i’r pwyllgor er mwyn iddynt ystyried effaith yr argymhelliad, a allai olygu dim gorfodi, a mynediad am ddim i barcio. Gallai hyn olygu bod meysydd parcio yn cael eu defnyddio gan weithwyr siopau a pherchnogion busnes gan adael ond ychydig o leoedd parcio i siopwyr ac ymwelwyr. 

 

Rhestrwyd y Strategaeth a Rhagolygon Incwm yn Atodiad 1, gydag awgrymiadau am newidiadau i’r Strategaeth wedi eu rhestru yn Atodiad 2 a chanllawiau i gynorthwyo Cynghorau Tref A Chymuned yn Atodiad 4. Byddai unrhyw sylwadau a wnaed ar yr adroddiad yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Ionawr.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y daflen oedd wedi ei chylchredeg yn y cyfarfod gan Gyngor Tref Bwcle ac awgrymodd bod Aelodau yn cael amser i ddarllen y daflen, cyn parhau â'r cyfarfod. Cadarnhawyd mai dim ond y diwrnod cynt oedd Swyddogion wedi derbyn y daflen, a bod llawer o wybodaeth yn cael ei holi amdani yn y daflen oedd i’w chwblhau gan y Swyddogion cyn y cyfarfod.

 

Gohirio         

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oedd yn bosib cael dau le parcio penodedig i’r Heddlu yn Nhreffynnon a chytunodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad i ymchwilio i'r cais hwn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Vicky Perfect bod ffioedd parcio yn gweithio yn dda yn Y Fflint ac wedi gwella lleoedd parcio ger y dref.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y wybodaeth am incwm oedd yn yr adroddiad ac roedd o’r farn y dylai’r Strategaeth Parcio gael ei theilwra i bob ardal benodol. Cyfeiriodd at adroddiad yr MRUK (Asesu Effaith Ffioedd Parcio Ceir ar Nifer Yr Ymwelwyr  Chanol Tref) ar gyfer LlC a chyfeiriodd at yr argymhellion o fewn yr adroddiad oedd yn pwysleisio’r angen i awdurdodau lleol ddatblygu strategaethau parcio sy’n cymryd i ystyriaeth awgrymiadau lleol o safbwynt cynlluniau canol trefi a chynigion manwerthu.  Ychwanegodd y byddai’r cynigion a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar NNDR hefyd yn helpu'r awdurdodau lleol i wneud eu rhan. Aeth ymlaen drwy ddweud nad oedd ffioedd parcio ceir yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi, yn enwedig pan oedd meysydd parcio Brychtyn am ddim a phan oedd mwy o ddewis yn Yr  ...  view the full Cofnodion text for item 37