Mater - cyfarfodydd
Planning Enforcement Policy
Cyfarfod: 18/12/2018 - Cabinet (eitem 280)
280 Polisi Gorfodi Cynllunio PDF 83 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi'r Polisi diwygiedig, sydd ei angen er mwyn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol ac arferion gwaith newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad y Polisi Gorfodi Cynllunio a oedd yn nodi sut roedd y Cyngor yn bwriadu darparu'r gwasanaeth. Roedd y polisi’n rhoi eglurder am y meini prawf y byddai’r Cyngor yn eu cymryd i ystyriaeth pan fyddai’n ystyried dan ba amgylchiadau y byddai’n cymryd camau gorfodi.
Roedd hefyd yn rhoi eglurder a thryloywder i'r rhai y gellid gweithredu yn eu herbyn ac roedd yn allweddol i gyflwyno newid gweithredol a diwylliannol ynghlwm â Gorfodi Cynllunio.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr angen am bolisi diwygiedig wedi dod i'r amlwg yn 2016 a hefyd ar ôl archwiliad ar Orfodi Cynllunio. Byddai hyfforddiant ar Orfodi Cynllunio’n cael ei ddarparu i'r holl Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cyhoeddi’r Polisi Gorfodi Cynllunio.