Mater - cyfarfodydd
Environmental Enforcement
Cyfarfod: 27/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 30)
30 Gorfodi Amgylcheddol PDF 78 KB
Pwrpas: I adolygu'r opsiynau ar gyfer darparu’r gwasanaeth Gorfodi Amgylcheddol yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar yr opsiynau ar gyfer darparu'r Gwasanaeth Gorfodi Amgylcheddol yn y dyfodol. Darparodd gontract y gwasanaeth â Kingdom. Roedd Kingdom wedi tynnu eu gwasanaethau'n ôl o ddiwedd mis Awst 2018. Eglurodd y Prif Swyddog mai'r tîm o swyddogion gorfodi mewnol a oedd yn weddill a oedd yn cyflawni'r holl weithgarwch gorfodi o fewn y Sir ar hyn o bryd. Nodai'r adroddiad y 5 opsiwn posibl er mwyn gorfodi polisïau amgylcheddol y gwasanaeth drwy'r sir. Gwahoddodd y Prif Swyddog Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i gyflwyno'r adroddiad a'r arfarniad o opsiynau gorfodi a oedd wedi'i atodi.
Yn dilyn yr argymhelliad i derfynu'r contract â Kingdom ac archwilio modelau gwahanol er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth, dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd yr aethpwyd ati i gysylltu â'r holl Awdurdodau yng Ngogledd Cymru i ddeall eu cynigion ar gyfer y dyfodol. Yn debyg i'r Awdurdod hwn, gwelwyd bod Awdurdodau Lleol cyfagos yn cynnal adolygiad o'u gwasanaethau gorfodi ar hyn o bryd a bod pob opsiwn yn agored i'w ystyried. Adroddodd Rheolwr y Strategaeth Priffyrdd ar y 5 opsiwn sydd ar gael er mwyn gorfodi drwy'r sir, gan gyfeirio at y costau, y manteision a'r risgiau perthnasol yn gysylltiedig â'r modelau cyflenwi gwasanaeth yn y dyfodol. Dywedodd mai Opsiwn 2 oedd yr opsiwn a ffafrir - Darpariaeth gorfodi fewnol well er mwyn cyflenwi'r gwasanaeth gorfodi amgylcheddol a pharcio ceir o fewn y Sir.
Cynigiodd y Cynghorydd David Evans y dylid cytuno ar Opsiwn 2 y amodol ar ddileu'r egwyddor dim goddefgarwch wrth gyflwyno Hysbysiadau Cosb Sefydlog am droseddau gollwng sbwriel. Mynegodd y farn fod y risgiau'n gysylltiedig ag Opsiwn 3 yn gwrthbwyso'r manteision, ac na allai gefnogi'r opsiwn hwnnw.
O ran gorfodaeth, esboniodd y Prif Swyddog fod swyddogion gorfodi yn derbyn canllawiau clir ar yr angen i orfodi yn erbyn digwyddiadau bwriadol, yn hytrach na digwyddiadau damweiniol.
Siaradodd y Cynghorydd Paul Shotton o blaid Opsiwn 2 a'r cynnig i gyflogi 2 Swyddog Gorfodi arall i gyflenwi gwasanaeth fyddai'n cynnwys pob rhan o'r Sir. Soniodd am yr angen i ymgysylltu â gwirfoddolwyr a grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth a helpu i ddatrys problem sbwriel sy'n cael ei ollwng mewn ardaloedd cymunedol lleol. Cyfeiriodd at gost gorfodaeth amgylcheddol a gofynnodd a fyddai modd i'r Pwyllgor gael yr wybodaeth ddiweddaraf flwyddyn nesaf.
Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r gost o cyflogi 2 Swyddog Gorfodi arall yn creu pwysau ar y gyllideb. Cydnabu'r sylwadau a gafwyd gan y Cynghorydd Shotton ynghylch cynnwys y gymuned leol yn y gwaith o 'dacluso' ardaloedd lleol, a dywedodd fod grwpiau a gwirfoddolwyr lleol yn cymryd rhan pan fyddai digwyddiadau lleol yn cael eu cynnal. Dywedodd hefyd y gellid gofyn i gydgysylltwyr ardaloedd lleol ddefnyddio eu cysylltiadau yn y gymuned i ofyn am gymorth.
Gofynnod y Cadeirydd a fyddai modd iddo gael gwybod pan fyddai swyddogion gorfodi yn ymweld â'i Ward. Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai'r wybodaeth honno'n cael ei darparu. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai'n cysylltu â'r holl Aelodau i ... view the full Cofnodion text for item 30