Mater - cyfarfodydd

Safeguarding – Adults & Children

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 34)

34 Diogelu - Oedolion a Phlant pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas: Darparu Aelodau â gwybodaeth ystadegol yngl?n â DiogeluOedolion a Phlant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad am gyd ddarpariaeth Diogelu Plant ac Oedolion o fewn ffiniau’r Sir. Dywedodd bod yr adroddiad hefyd yn amlygu’r amrywiaeth o waith a wneir gan yr Uned Ddiogelu, a gweithgarwch yr Uned. Roedd yr adroddiad yn crynhoi gwersi allweddol o adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig.

 

                        Soniodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a gwahoddodd Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu i ddarparu trosolwg o'r gwaith sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Uned Ddiogelu o safbwynt amddiffyn plant, diogelu oedolion, oedolion sydd mewn perygl, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Phlant Dan Ofal.

 

                        Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am eu hadroddiad ar y cyd. 

 

                        Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y materion o ddiogelwch ar-lein, cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, a dibyniaeth ar hapchwarae ar-lein, a gofynnodd pa beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sut gallai dioddefwyr ddod o hyd i wybodaeth a chyngor. Llongyfarchodd y Cynghorydd Hughes yr Uned Ddiogelu ar eu gwaith ardderchog. Dywedodd na allai weld unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ar-lein yn yr adroddiad, a fyddai yn ei farn ef yn cwympo o dan diogelu. Gan gyfeirio at yr adroddiad ar Arolygiadau Dynladdiad a’r cyfeiriad at alwad 999 distaw, gofynnodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn iddynt gyhoeddi'r ffaith os oedd galwad 999 yn ddistaw, mae’n debygol na fyddai unrhyw ymateb i argyfwng.

 

Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu bod diogelwch ar-lein yn faes o fewn cylch gwaith yr uned ddiogelu a bod gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo. Roedd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu yn cydnabod nad oedd diogelwch ar-lein yn cael ei drafod yn yr adroddiad, fod bynnag dywedodd bod yr uned yn ymwybodol iawn o ddiogelwch ar-lein a dywedodd y byddai unrhyw bryderon am ddiogelwch plant yn cael eu hystyried o fewn cynlluniau amddiffyn plant a chynlluniau llys.  Cyfeiriodd hefyd at y Panel Pobl sydd ar Goll, wedi’u Camfanteisio arnynt ac wedi’u Masnachu (Missing Exploited Trafficked (MET)), sy'n banel ar y cyd â Wrecsam ac yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud ag achosion o gamfanteisio. Byddai hyn yn cynnwys pryderon am weithgarwch ar-lein.

 

Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dull amlasiantaeth o rannu gwybodaeth.  Canmolodd y gwaith ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth cam-drin domestig, ac awgrymodd y dylai ysgolion gael gwybod cyn y diwrnod ysgol os yw digwyddiadau wedi digwydd, ble bo hynny’n bosib.  Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai ap i adrodd am fwlio ar ddyfeisiadau symudol fod yn arf defnyddiol.

 

Roedd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Chomisiynu yn cytuno â sylwadau y Cynghorydd McGuill. Gan gyfeirio at fwlio, dywedodd er mai yn y maes addysg yr oedd hyn yn bodoli fwyaf, roedd hefyd yn gyfrifoldeb ar bawb.

 

Eglurodd y Cadeirydd ei bod wedi anfon cyfres o negeseuon e-bost yngl?n â pherson di-gartref yn cysgu ger ysgol feithrin ac nad oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 34